Newyddion S4C

Person wedi dioddef anafiadau difrifol mewn damwain ym Mhen Llŷn

08/04/2025
B4417

Mae person wedi dioddef anafiadau difrifol mewn damwain rhwng dau gar ym Mhen Llŷn.

Fe dderbyniodd yr heddlu adroddiadau am y gwrthdrawiad am 17.14 ddydd Llun ar ffordd y B4417 rhwng Tudweiliog a Phenllech.

Cafodd Heddlu'r Gogledd, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i'r digwyddiad.

Cafodd hofrennydd ambiwlans awyr ei galw i leoliad y ddamwain hefyd.

Cafodd un person ei gludo i ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol ac fe gafodd dau arall eu cludo i Ysbyty Gwynedd.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 25000285295.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.