Dynes oedd yn teithio ar gefn beic modur wedi marw ger Wrecsam
Mae dynes oedd ar gefn beic modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Wrecsam brynhawn ddydd Sul.
Daeth adroddiadau am wrthdrawiad rhwng dau gerbyd ychydig wedi 13:00 ar yr A534 Ffordd Wrecsam, ar y gyffordd gyda Ffordd Barton Road, yn Holt.
Roedd Mercedes llwyd a beic modur Kawasaki glas yn y ddamwain.
Bu farw'r ddynes oedd yn teithio ar sêt gefn y beic modur yn y fan a'r lle.
Mae’r dyn oedd yn teithio ar sêt flaen y beic modur yn parhau yn yr ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol a allai newid ei fywyd.
Mae'r crwner wedi cael gwybod am y farwolaeth.
Dywedodd Sarjant Steve Richards o Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol Heddlu'r Gogledd: “Rydym yn cydymdeimlo â theulu’r ddynes sydd wedi marw a phawb a fu’n ymwneud â’r achos.
"Maen nhw bellach yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbennigol.
“Mae ein hymholiadau’n parhau i sefydlu’r amgylchiadau llawn a gofynnir i unrhyw un a all gynorthwyo gyda’n hymchwiliad, nad yw eisoes wedi siarad â swyddogion, i gysylltu cyn gynted â phosibl.
"Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â swyddogion yn Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru drwy’r wefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 25000281482."