Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys i ymddeol
Mae Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol, wedi cyfnod o ychydig dros dair blynedd wrth y llyw.
Dechreuodd Dr Richard Lewis y swydd ym mis Rhagfyr 2021, a chyn hynny, roedd yn Brif Gwnstabl Heddlu Cleveland.
Yn wreiddiol o Sir Gâr, ymunodd â Heddlu Dyfed Powys yn 2000.
Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd: “Fel rhywun a gafodd ei fagu yng ngorllewin Cymru ac sydd wedi gweithio yn y pedair sir, arwain Heddlu Dyfed-Powys fu braint broffesiynol fwyaf fy mywyd.
"Does gen i ddim byd ond atgofion melys o weithio i’r heddlu arbennig hwn, ac mewn plismona. Bu’n fraint gweithio ochr yn ochr â’r CHTh Dafydd Llywelyn, sy’n arweinydd gwirioneddol ac yn ffigwr o bwys yn genedlaethol yng Nghymru sydd wedi buddsoddi cymaint yn natblygiad Dyfed-Powys a diogelwch ei gymunedau."
Cafodd cyfres Y Prif ei darlledu ar S4C yn 2023 a oedd yn dilyn Dr Lewis am gyfnod o 18 mis wrth ei waith.
Ychwanegodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn: “Hoffwn fynegi fy niolch diffuant i’r Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis am ei wasanaeth a’i ymrwymiad i Heddlu Dyfed-Powys.
"Bu ei arweinyddiaeth yn allweddol wrth dywys yr heddlu drwy gyfnod o newid sylweddol dros y tair blynedd diwethaf, gan sicrhau ein bod ni’n parhau i ddarparu gwasanaeth plismona effeithiol ac effeithlon i’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu."
Dadleuol
Yn ystod ei gyfnod yn arwain y llu, mae’r Prif Gwnstabl wedi hawlio’r penawdau fwy nag unwaith am ei farn ddadleuol.
Fe alwodd am ffurfio un llu heddlu i Gymru gyfan, gan ddadlau bod y system gyda phedwar llu ar wahan ar gyfer Gogledd Cymru, De Cymru, Gwent a Dyfed Powys yn creu gormod o fiwrocratiaeth.
Derbyniodd feirniadaeth am ei sylwadau, gan gynnwys gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Heddlu De Cymru ar y pryd, Alun Michael.
Awgrymodd yntau y dylai Dr Lewis gadw at blismona yn hytrach nag ymyrryd â materion gwleidyddion.
Ym mis Chwefror 2023, bu’n gyfrifol am sbarduno ymateb chwyrn ar wefan gymdeithasol X wedi iddo drydar ei bod hi’n bryd gwahardd y gân Delilah rhag cael ei chanu mewn gemau rygbi rhyngwladol yn Stadiwm Principality, oherwydd ei hanfodion misogynistaidd.
Gwelwyd y neges gan 3.5 miliwn o bobl, gan sbarduno dros 10,000 o ymatebion.
Bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu bellach yn dechrau chwilio am Brif Gwnstabl nesaf Heddlu Dyfed-Powys.
Y Dirprwy Brif Gwnstabl Ifan Charles fydd y Prif Gwnstabl dros dro.