Newyddion S4C

Dirwy i gwmni amddiffyn ar ôl i ddyn gael ei saethu yn Sir Gaerfyrddin

Gwn a targed

Mae cwmni amddiffyn wedi cael dirwy o £800,000 ar ôl i weithiwr gael ei saethu wrth brofi bwledi ar safle'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd y tad i ddau o blant ei adael wedi’i barlysu o dan ei ysgwyddau ar ôl cael ei saethu gan fwled 5.56mm wedi’i danio o ddryll oedd 570 metr i ffwrdd. 

Digwyddodd y saethu ar 25 Mawrth 2021wrth asesu ansawdd bwledi NATO ym Mhentywyn.

Swydd y dyn sydd bellach yn 42 oed oedd gwirio effaith bwledi ar darged metel ac roedd o flaen y targed pan gafodd un o’r bwledi ei danio.

Plediodd cwmni QinetiQ Limited o Swydd Hampshire yn euog i’r drosedd dan Adran 2(1) o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974. 

Cafodd y cwmni ddirwy o £800,000 a gorchmynnwyd iddynt dalu £8,365 mewn costau yn Llys Ynadon Llanelli ar 3 Ebrill 2025.

Dywedodd prif arolygydd arbenigol HSE, Stuart Charles, am y gweithiwr a gafodd ei anafu: “Mae ei fywyd ef a bywydau ei wraig a’i ddau o blant wedi’u chwalu gan yr anafiadau difrifol y mae wedi’u dioddef.

“Gallai camau syml fod wedi cael eu cymryd a fyddai wedi atal y digwyddiad hwn.

“Mae’r achos hwn yn dangos i gyflogwyr bwysigrwydd asesu’n barhaus y ffordd y maent yn gweithio ac nid dim ond derbyn arferion fel yr oedden nhw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.