
Deiseb yn galw am reolau llymach i yrwyr ifanc wedi marwolaeth pedwar yn Eryri
Mae aelod seneddol o'r gogledd wedi cefnogi deiseb 100,000 o lofnodion sydd yn galw am reolau llymach ar yrwyr newydd yn dilyn marwolaeth pedwar o ddynion ifanc mewn gwrthdrawiad yn Eryri.
Bu farw Harvey Owen, 17 oed, Hugo Morris, 18 oed, Wilf Fichett, 17 oed a Jevon Hirst, 16 oed ar ôl i'w car wyro i mewn i ffos ger Llanfrothen yng Ngwynedd, ar 21 Tachwedd 2023.
Fe wnaeth mamau'r pedwar gyflwyno'r ddeiseb yn Downing Street ddydd Mercher.
Mae'r ddeiseb yn galw am gyfyngiadau mwy tynn ar gyfreithiau trwyddedau gyrru.
Maen nhw'n dweud na ddylai gyrwyr sy’n dysgu gyrru gludo teithwyr 25 oed neu iau am y chwe mis cyntaf ar ôl pasio eu prawf (neu nes eu bod yn troi’n 20, pa un bynnag sy’n dod gyntaf).
Yn ogystal mae'r ddeiseb yn galw am gyflwyno trwyddedau gyrru graddedig, sydd yn cyflwyno gyrwyr newydd yn raddol i yrru.

Dywedodd Crystal Owen, mam Harvey, wnaeth gychwyn y ddeiseb, bod hi eisiau newid er mwyn achub bywydau pobl ifanc.
"Pam yn 17 oed ydyn nhw'n cael bod mewn rheolaeth peiriant angheuol ddiwrnod wedi iddyn nhw basio eu prawf, ond dydyn nhw ddim yn ddigon hen i yfed alcohol?
"Mae'r cyfreithiau yn rhai hen ffasiwn. Nid yw'r ffaith bod y gyfraith bob tro yn cael ei derbyn yn gwneud pethau'n iawn.
"Pob tro rydym yn clywed straeon am wrthdrawiadau lle mae pobl yn marw yn y newyddion, mae ein calonnau yn torri achos rydym yn gwybod os byddai y llywodraeth wedi gwrando, byddai modd osgoi'r marwolaethau hyn.
"Nid yw hyn i gosbi gyrwyr ifanc, mae hyn er mwyn eu hachub a galluogi iddyn nhw fyw eu bywydau cyfan."
'Trasig'
Fe wnaeth Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd roi ei chefnogaeth i'r ddeiseb gan y grŵp o famau.
"Mae dewrder Crystal Owen wrth arwain yr ymgyrch hon mor fuan ar ôl colli ei mab Harvey mewn amgylchiadau mor drasig yn gwbl gymeradwy," meddai Liz Saville Roberts.
"Mae marwolaeth drasig Harvey, ochr yn ochr â thri o’i ffrindiau ger Llanfrothen yn fy etholaeth yn tanlinellu bod damweiniau ffordd yn effeithio’n anghymesur ar bobl ifanc.
"Yn wir, mae cymaint o yrwyr ifanc mewn gwrthdrawiadau yn eu blwyddyn gyntaf o yrru."

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU: “Mae pob marwolaeth ar ein ffyrdd yn drasiedi ac mae ein meddyliau’n parhau gyda theuluoedd pawb sydd wedi colli teulu yn y ffordd hon.
“Er nad ydym yn ystyried trwyddedau gyrru graddedig, rydym yn llwyr gydnabod bod pobl ifanc yn dioddef yn anghymesur o ddigwyddiadau trasig ar ein ffyrdd.
“Rydym yn datblygu strategaeth diogelwch ffyrdd newydd, y gyntaf ers dros ddegawd, i sicrhau bod ffyrdd y DU yn parhau i fod ymhlith y rhai mwyaf diogel yn y byd.”
Prif lun: PA