Newyddion S4C

Disgwyl penderfyniad ar adweithyddion niwclear yng Nghymru 'erbyn diwedd yr haf'

Disgwyl penderfyniad ar adweithyddion niwclear yng Nghymru 'erbyn diwedd yr haf'

Mae camu i ganol Safle Wylfa fel camu nol mewn amser.

Ond er i'r gwaith o gynhyrchu ynni niwclear yma ddod i ben dydy'r gwaith yma bell o fod ar stop.

"Dyma'n union oedd pobl yn gorfod gwisgo.

"Meddylia neud wyth awr o waith yn hwn!"

Mae'r pwyslais yma ar addysgu'r genhedlaeth nesaf.

Gyda marc cwestiwn dros ynni nwiclear newydd mae 'na gyfle o hyd medd rhai yma am waith ar y safle ac i gadw pobl ifanc yn lleol.

"Dydy pobl ddim bosib yn meddwl am niwclear neu ddadgomisiynu fel gyrfa yn yr ysgol, wnes i definitely ddim.

"O'n i wedi symud i ffwrdd a dod yn ol i Sir Fon achos y swydd yma."

Ai hanner yr her ydy darbwyllo pobl ifanc yr ynys bod 'na le iddyn nhw o hyd i weithio yn Wylfa?

"Dw i'm yn gwybod os ydy lot o bobl yn gwybod be 'dan ni'n neud.

"Dyna pam dw i di bod yn rili passionate am gael ysgolion mewn a dangos be 'dan ni'n neud.

"Mae pobl yn meddwl be actually dach chi yn neud?

"Mae 'na lot o waith, mae'r cwmni yn tyfu! Dim mynd yn llai."

Gyda galw am weithwyr newydd, bydd swyddi yma tan o leiaf y flwyddyn 2096 a 500 eisoes yn cael eu cyflogi yn y sector yma yng Nghymru.

Mewn ardal sydd a chyfleoedd tebyg yn prinhau mae'r lle hwn degawdau ers ei sefydlu yn gyfle i Rhys Roberts ddod nol i Fon i fyw a gweithio.

"Does na'm lot o le ar yr ynys rili sy'n tynnu pobl yn ol yma.

"Does dim llwyth o opportunities ar yr ynys yn anffodus.

"Mae petha'n dod ymlaen yn Wylfa.

"Mae 'na skills shortages yn y nuclear industry."

Tra bod cyfleoedd ym maes dadgomisiynu yr hyn mae nifer yn dal i'w holi, pryd ac os y daw niwclear i Fon.

Yn ol Cadeirydd grwp trawsbleidiol niwclear y Senedd gallai'r penderfyniad ar sefydlu adweithyddion llai yng Nghymru gael ei wneud yn fuan.

"We're expecting before the end of summer there'll be choices about the next generation of small modular reactors.

"I'm quite positive about that, Welsh MPs are lobbying for this.

"There's a difference between what these can bring compared to a really big project like Hinckley.

"Hinckley takes 10-12 years to build.

"We don't have a workforce which means we can build at that scale."

O dreulio amser yma ar y safle, chi wir yn gwerthfawrogi gwaddol a hanes safle Wylfa yma ym Mon ond yr effaith ar draws y gogledd.

Cymaint o benawdau newyddion a gobaith.

Ar ddwy ochr y ddadl, mae angen sicrwydd.

"'Dan ni'n ynys ynni, mae 'na ddigon o ynni naturiol yma gellir eu creu.

"Digon o ffyrdd o ynysu tai fel bod nhw ddim yn gollwng pres.

"Mae'r hogia isio gwaith rwan, dim rhyw freuddwyd gwrach yn y dyfodol."

"Pwy sy'n cofio pryd wnaethon ni stopio cynhyrchu trydan?"

Gyda disgwyl i Lywodraeth Prydain wneud penderfyniad dros ddyfodol adweithyddion llai mynnu mae gweinidogion bod gan niwclear rol bwysig o hyd i gyrraedd targedau ynni.

A Wylfa medd y disgyblion hyn yn cynnig rhyw obaith at aros a gweithio yn lleol.

"Ni'n gwybod bod y lle'n cau lawr ond os 'dan ni'n gael un newydd fyddai na lot o swyddi i bobl rownd Anglesey i gyd."

"Mae'n cweit anodd aros yn lle ti isio oherwydd mae 'na fwy o opportunities y tu allan i Ynys Mon."

"Swn i'n hoffi aros yma.

"Does 'na ddim llawer o swyddi yma ond ella drwy adeiladu lle newydd gallai hynny greu mwy o swyddi i bobl ifanc."

Ydy fan'ma'n creu gobaith?

"Yndi."

Mynnu mae rhai yma felly fod na waith da a phwysig ar y safle o hyd.

Ond hir yw bob aros - a chwestiynau eto fyth heno a fydd 'na wawr newydd i'r hen atomfa.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.