
Cais i adeiladu parc dŵr fyddai yn 'un o brif atyniadau y canolbarth' yng Ngheredigion
Mae cais ar gyfer parc dŵr newydd wedi ei gyflwyno gan berchnogion bwyty a maes carafanau yng Ngheredigion – a hynny gyda'r nod o greu “un o brif atyniadau Canolbarth Cymru".
Chris a Geraint Thomas yw perchnogion Fferm Bargoed, sef maes carafanau a gwersylla ger Aberaeron yng Ngheredigion.
Maen nhw eisoes wedi ychwanegu siop, bwyty, lle chwarae meddal i blant, a pharc trampolinau ers agor saith mlynedd yn ôl ger Llanarth, Aberaeron.
Maen nhw bellach wedi cyflwyno cais i ehangu'r safle i gynnwys parc dŵr "cyffrous" newydd dan do ac yn yr awyr agored a fydd yn darparu “gweithgareddau yn y dŵr trwy gydol y flwyddyn i ymwelwyr a'r gymuned leol".
Bydd y parc hefyd yn cynnwys sleidiau dŵr amrywiol, pwll nofio hyfforddi, ardal arbennig i blant, a phwll nofio wedi'i gynhesu, medden nhw.
Mae'r cynlluniau yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus gan annog trigolion lleol i ddweud eu dweud ar eu cynlluniau.

Dywedodd perchnogion Fferm Bargoed: “Bydd eich adborth yn cael effaith uniongyrchol ar ddyluniad y parc dŵr.”
Nod Chris a Geraint Thomas yw creu rhywbeth a fydd yn cael ei ystyried fel un o brif atyniadau Canolbarth Cymru, meddai’r cais.
Fe wnaeth y pâr agor eu safle ar Fferm Bargoed yn 2018, gan fentro i’r byd lletygarwch gyda’u siop a bwyty yn ddiweddarach.
Yn 2023, cafodd cais cynllunio i ehangu’r maes carafanau ei gymeradwyo, ac yn fwy diweddar, cawsant ganiatâd i adeiladu parc trampolinau o’r enw’r Bouncing Bull.