Newyddion S4C

Lansio Apêl Daeargryn Myanmar yng Nghymru

03/04/2025
Ymgyrch achub Myanmar

Mae grŵp o elusennau yng Nghymru wedi lansio apêl i helpu'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan y daeargryn yn Myanmar.

Fe wnaeth y daeargryn, oedd yn mesur 7.7 ar y raddfa Richter, daro'r wlad fore Gwener diwethaf. 
 
Erbyn hyn, y gred yw bod mwy na 2,800 o bobl wedi marw.
 
Bydd Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC) Cymru yn lansio Apêl Daeargryn Myanmar ddydd Iau.
 
Mae DEC yn dod â 15 o elusennau cymorth at ei gilydd ar adegau o argyfwng lle mae angen dyngarol sylweddol. 
 
Mae'r elusennau'n cynnwys Oxfam, Achub y Plant a'r Groes Goch Brydeinig.
 
Bydd cynrychiolwyr o'r elusennau yn cwrdd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip Jane Hutt ym Mae Caerdydd.
 

Ar hyn o bryd mae rhyfel cartref yn y wlad, rhwng y llywodraeth filwrol, grwpiau gwrthryfelwyr a’r lluoedd arfog.

O achos grym y daeargryn, fe gafodd Gwlad Thai hefyd ei heffeithio. 

Yn Bangkok, prifddinas Gwlad Thai, roedd yn rhaid i filoedd adael adeiladau a gafodd eu difrodi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.