
Atgofion swyddog carchar o Abertawe wrth iddo ymddeol ar ôl 50 mlynedd
Ar drothwy ei ymddeoliad, mae'r swyddog carchar sydd wedi gwasanaethu hiraf yn y DU, ac sy'n wreiddiol o Abertawe, wedi edrych yn ôl ar 'drawsnewidiad llwyr' carchardai.
Yn wreiddiol o Abertawe, fe ymunodd Steve Ley â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF ym 1975 yn 21 oed.
Bellach yn 71 oed, mae Mr Ley yn gweithio yng ngharchar HMP Feltham yng ngorllewin Llundain, ac mae wedi bod yn dyst i drawsnewidiad llwyr y gwasanaeth.
Nid oedd gan garcharorion fynediad at doiledau mewn celloedd yn y 70au, ond bellach mae ganddynt fynediad at deledu a ffonau, ac mae hyn yn rhywbeth cadarnhaol yn ôl Mr Ley.
Er ei fod wedi profi cyfnodau isel yn ei yrfa, gan gynnwys bod yn dyst i farwolaethau yn y ddalfa, mae hefyd wedi gweld carcharorion yn "dychwelyd i'w cymunedau".
Mae Mr Ley bellach yn edrych ymlaen at ymddeol ym mis Mai, ac yn bwriadu mynd i deithio gyda'i wraig, Ann.

Balchder
Wrth siarad cyn ei ymddeoliad, dywedodd: "Pan wnes i ymuno â'r swydd am y tro cyntaf, doeddwn i ddim yn dweud wrth lawer o bobl am fy swydd.
"Bryd hynny, nid oedd gan staff carchar enw da - roedd gan bobl farn gadarn o'r hyn oeddem ni.
"Erbyn heddiw, does gen i ddim cywilydd i gyfaddef yr hyn dw i'n ei wneud. Dwi'n falch o'r hyn dw i'n ei wneud...a dw i'n teimlo fy mod i wedi gwneud gwahaniaeth."
Dechreuodd Mr Ley weithio yng ngharchar Ashford ym 1975 cyn symud ymlaen i HMP Feltham, HMP Whitemoor, HMP High Down cyn dychwelyd i HMP Feltham.
Ychwanegodd Mr Ley fod ganddo nifer o atgofion o'i waith ar hyd y blynyddoedd, ond mae un atgof yn aros yn y cof yn fwy na'r gweddill.
Tra'n gweithio yng ngharchar Ashford, roedd grŵp o garcharorion ifanc wedi dod i wybod ei fod wedi croesawu ei blentyn cyntaf, ac fe wnaethant gardiau i longyfarch y teulu.
"Mae hi'n eithaf anarferol i gael yr ymateb yna gan bobl, hyd yn oed ffrindiau, felly i'r bechgyn yma wneud hynny tra'r oedden nhw yn y carchar, roedd o'n arbennig," meddai.
Dywedodd hefyd fod gweithio mewn carchardai wedi ei wneud yn berson mwy goddefgar ac yn wrandäwr gwell, ac y byddai'n annog unrhyw un i ymgeisio am swydd gyda'r gwasanaeth carchardai.