Dynes o Fôn yn cyfaddef iddi dwyllo ei modryb o £45,000
Mae dynes o Ynys Môn wedi cyfaddef iddi dwyllo’i modryb weddw a oedd yn dioddef o Alzheimer’s o £45,000.
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mercher fe blediodd Susan Morgan, 69 oed o Borthaethwy, yn euog o dwyllo Barbara Ross rhwng Mai 2013 a Mawrth 2017.
Roedd y diweddar Barbara Ross yn dioddef o Alzheimer’s cyn iddi farw.
Dywedodd yr erlyniad ei bod wedi symud i fyw gyda Mrs Morgan mewn tŷ yr oedd hi’n meddwl ei bod yn rhan-berchennog arno gan ei bod yn rhoi arian tuag ato, ond Mrs Morgan oedd yn derbyn yr arian i gyd.
Ychwanegodd nad oedd Mrs Ross yn defnyddio cyfrifiadur nac yn berchen ar gar, ond bod cofnod yn bodoli o'i defnydd o'i cherdyn banc a thaliadau rheolaidd a chodiadau arian parod.
Y “diffyg cyffredinol” i gyfrif banc Mrs Ross oedd £218,831, gyda £45,000 o’r ffigwr yn gallu cael ei briodoli i Susan Morgan.
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry fod Mrs Morgan wedi derbyn cyfrifoldeb am “gymryd mantais” ar rywun oedd yn dioddef o ddementia.
Ychwanegodd fod Mrs Ross wedi teimlo’n drist bod un o’r bobl “agosaf ac anwylaf” iddi wedi ymddwyn mewn ffordd a oedd wedi gwneud iddi deimlo’n “ddryslyd.”
Rhoddodd y barnwr ddedfryd o ddwy flynedd o garchar wedi’i ohirio am ddwy flynedd i Susan Morgan, a bydd yn rhai iddi gael cyrffyw dros nos am gyfnod o chwe mis.