Huw 'Fash' Rees i ddechrau priodi pobl
Huw 'Fash' Rees i ddechrau priodi pobl
Mae'r cyflwynydd ffasiwn Huw 'Fash' Rees wedi dweud ei fod yn bwriadu dechrau priodi pobl.
Bydd ei rôl newydd fel celebrant yn golygu y bydd yn gallu arwain seremonïau digrefydd fel priodas, angladd, enwi babi a gwasanaethau coffa.
Dywedodd ar raglen Prynhawn Da ar S4C ei fod wedi gwneud y penderfyniad ar ôl gweld bod "cyn lleied o bobl yn gallu neud hyn trwy gyfrwng y Gymraeg".
Nid oes rhaid cwblhau cymhwyster er mwyn gwneud y rôl, ond mae Huw wedi dechrau cwrs i ddysgu mwy.
Mae'n edrych ymlaen at gael cynnal y seremonïau mewn lleoliadau ar draws Cymru, ac mae'n dweud y bydd rhai mewn lleoliadau crand.
"Bydd e'n lyfli gweld llefydd chi ddim wedi gweld o'r blaen," meddai wrth siarad ar y rhaglen ddydd Mawrth.
Un elfen annisgwyl i'r gwaith yw'r ysgrifennu creadigol am fod angen creu gwasanaeth yn arbennig i'r unigolyn neu gwpl meddai.
"Chi'n creu pob gwasanaeth yn arbennig ar gyfer bob person. Mae'r pedwar priodas wedi bwco ar gyfer blwyddyn nesaf, maen nhw mor wahanol," meddai.
"Chi'n iste lawr a chi'n rhoi cyfle i rywun gael jest be ma nhw moen ar eu diwrnod pwysig nhw."
Ym mis Ionawr eleni fe gyhoeddodd ei fod yn cau ei fusnes dillad priodas yn Llandeilo oherwydd heriau iechyd.
Mae Huw ar beiriant dialysis am nad yw ei arennau yn gweithio yn effeithiol.
Fe aeth ati i gynnal sêl gan roi rhai o'r dillad i elusennau a cholegau yn Sir Gaerfyrddin.