Newyddion S4C

'Andros o sioc': Car dyn wedi ei ddwyn funudau ar ôl iddo ddychwelyd o'r ysbyty wedi ymosodiad

Newyddion S4C
Alan Chappell-Williams

Roedd Alan Chappell-Williams yn cerdded adref o ganol Caerdydd y llynedd ar ôl noson gyda ffrind pan ymosodwyd arno.

Cafodd ei ffôn symudol, ei walet a’i oriadau eu dwyn ac ar ôl treulio’r noson yn yr ysbyty fe ddaeth adref. O fewn munudau i hynny roedd ei gar wedi ei ddwyn.

Roedd ei gerbyd ymysg dros 4,000 gafodd eu dwyn yng Nghymru yn 2024 – cynnydd o 31% mewn deng mlynedd, yn ôl ffigyrau’r Swyddfa Gartref.

Dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu bod nhw'n benderfynol o leihau nifer y cerbydau sy’n cael eu dwyn.

Image
Alan Chappell-Williams
Dioddefodd Alan Chappell-Williams nifer o anafiadau

Ym mis Mai 2024, cafodd Mr Williams ei guro yn anymwybodol gan ddau ddyn yn ardal Glan-yr-Afon yn y ddinas.

“Roedd o yn andros o sioc,” meddai. “Ti ddim yn clywed am bethau fel hyn yn digwydd yng Nghaerdydd yn aml.” 

Fe dorrodd ei ysgwydd, ei drwyn ac roedd ganddo lygaid du.

Dydi o ddim yn cofio’r ymosodiad yn digwydd a phan ddeffrodd fe sylweddolodd ei fod yn yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Tua 7:30 y bore canlynol fe gyrhaeddodd adref a rhai munudau yn ddiweddarach roedd ei gar wedi ei ddwyn gan yr ymosodwyr.

Mae Mr Williams yn credu eu bod yn gwybod ble roedd yn byw gan fod ei drwydded yrru wedi ei chymryd yn yr ymosodiad.

Mae’n dweud ei bod yn anodd gwybod beth oedd y rhesymau tu ôl i’r ymosodiad.

“Mi gafodd y car ei ffeindio mewn ryw garej, ‘cut and shut’ wnaethon nhw ei alw fo, wrth egluro lle yr oedd o," meddai.

“Oedd o’n rhan o ryw organised crime gang sy’n gwneud chdi feddwl i’r car fod wedi diflannu o fewn diwrnod mewn i system fel yna... oedden nhw o leiaf yn gwybod sut i’w gael o mewn i’r system yna.”

'Haws i ddwyn'

Yn ôl ffigyrau gan y Swyddfa Gartref, cafodd 4,267 o gerbydau eu dwyn yng Nghymru yn 2023-24 o’i gymharu â 3,238 yn 2014-15.

Heddlu Gwent welodd y cynnydd mwyaf mewn troseddau yn yr un cyfnod – i fyny o 670 i 1,290 – codiad o 92%.

Mae dyfeisiadau electronaidd soffistigedig yn cael eu defnyddio gan droseddwyr mewn 40% o achosion dwyn ceir yng Nghymru a Lloegr, meddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Un o’r technegau mwyaf cyffredin sy’n cael eu defnyddio gan ladron ydi yr hyn sy’n cael ei alw yn relay attack.

Mae’n golygu bod dyfais yn cael ei defnyddio i ganfod ac i ehangu signal y goriad heb orfod dwyn y goriad na thorri mewn i’r eiddo.

Mae diogelwch ceir yn un o’r gwasanaethau sy’n cael ei gynnig gan Garej Arwyn ym Mhenygroes yng Ngwynedd.

“Mae’r dechnoleg sydd gan ladron rŵan mor hawdd i gael gafael ar,” meddai Sion Llwyd, un o’r gweithwyr yno.

“Mae o’n gwneud o’n haws iddyn nhw allu ei ddwyn o. Y ffaith bo nhw’n gallu prynu fo mor hawdd… mae o’n rhoi ein cwsmeriaid ni mewn lle fwy vulnerable.”

Image
Arolygydd Gerallt Hughes o Heddlu De Cymru
Arolygydd Gerallt Hughes o Heddlu De Cymru

Mae Heddlu De Cymru yn dweud bod nifer o geir wedi eu targedu eleni yn ardal Caerdydd a Bro Morgannwg.

Dywedodd yr Arolygydd Gerallt Hughes fod hynny’n bryder i’r llu.

Pan ofynnwyd beth oedd y rheswm dros y cynnydd ar draws Cymru, dywedodd: “Lot o’r amser jyst pobol yn cymryd y cyfleoedd. Mae yna bris mawr ar y ceir yma ac mae pobol yn gallu gwneud lot o bres drwy eu dwyn.

“Mae’n bwysig wedyn ein bod ni’n gallu gwneud beth bynnag allwn ni i stopio hynny rhag digwydd.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref bod dwyn cerbydau yn cael effaith enfawr ar bobl a chymunedau. 

“Ers yn rhy hir mae nifer o ddioddefwyr yn teimlo nad oes digon yn cael ei wneud i atal eu cerbydau rhag cael eu dwyn, neu ddal y rheiny sy’n gyfrifol," meddai'r llefarydd.

“Yn ein Mesur Trosedd a Heddlu newydd, rydym yn cyflwyno deddfwriaeth i waharadd dyfeisiadau electroneg sy’n cael eu defnyddio i ddwyn cerbydau, gan roi pwerau i’r heddlu a’r llysoedd i dargedu’r troseddwyr sy’n eu defnyddio, eu creu a’u darparu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.