Penwythnos o ddigwyddiadau yn agor Eisteddfod AmGen 2021

31/07/2021
Coron

Fe fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn croesawu torfeydd am y tro cyntaf eleni yn ystod penwythnos gŵyl Eisteddfod Gudd.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn Aberystwyth fel rhan o ddigwyddiadau'r Eisteddfod AmGen, gyda deuddydd “llawn cerddoriaeth” yn rhan o’r digwyddiad rhwng 31 Gorffennaf a 1 Awst.

Gyda chyfyngiadau Covid-19 wedi dechrau llacio, roedd cyfle i 200 sicrhau tocyn ar gyfer yr ŵyl.

Bydd y digwyddiad yn cychwyn am 14:00 brynhawn Sadwrn yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, neu mae modd ffrydio’n fyw ar wefan yr Eisteddfod neu YouTube.

Mae Eden, Alffa, Welsh at the West End, Georgia Ruth a Band Pres Llareggub ymysg y rhai sy’n perfformio’n fyw.

Bydd Bryn Fôn a’r Band, Huw Chiswell, Kim Hon, Lily Beau a mwy yn cynnal sesiynau ar leoliad hefyd.

Image
Eisteddfod
Tony Thomas, gwneuthuriwr coron a chadair Eisteddfod AmGen 2021. 
Llun: Aled Llywelyn

Mae’r ŵyl yn croesawu gweddill y digwyddiadau sydd i ddod dros yr wythnos yn ystod Eisteddfod AmGen.

Ddydd Llun bydd gweithgareddau’n cychwyn yn yr ‘is-bafiliynau’ ar y ‘Maes’ rhithiol ar wefan Eisteddfod a YouTube.

Yn wahanol i’r llynedd, mae’r Eisteddfod wedi croesawu cystadleuwyr yn ôl, a gafodd eu ffilmio mewn amryw ganolfannau, neu adref.

Bydd y seremonïau arbennig yn cael eu darlledu’n fyw o Sgwâr Canolog y BBC yng Nghaerdydd.

Y Prif Seremonïau:

Dydd Llun, y Fedal Ddrama

Dydd Mawrth, Gwobr Goffa Daniel Owen

Dydd Mercher, y Coroni

Dydd Iau, Y Fedal Ryddiaith

Dydd Gwener, y Gadair

‘Gobeithio i’r mwynhad ddisgleirio’

Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, “Ry’n ni’n edrych ymlaen yn arw at wythnos wych. Yn dilyn llwyddiant AmGen y llynedd, roedden ni’n benderfynol o ddatblygu’r rhaglen ymhellach, ac rwy’n credu ein bod ni wedi llwyddo i wneud hynny.

“Mae hwn yn gyfle i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect eleni - i’r artistiaid a’r perfformwyr i gyd, i’n pwyllgorau ni a’n gwirfoddolwyr ni am eu cyngor doeth a’u cymorth parod drwy gydol y flwyddyn, a’r llu o gystadleuwyr, beirniaid a chyfeilyddion a fu wrthi’n ddiwyd yn paratoi am oriau.

“Ond yn fwyaf oll, diolch i’r tîm sydd wedi tynnu popeth at ei gilydd unwaith eto eleni. Mae wedi bod yn waith eithriadol o galed, ond ry’n ni i gyd wedi mwynhau, a gobeithio mai’r mwynhad yma fydd yn disgleirio drwy’r rhaglen yn ystod yr wythnos, ac y bydd pawb adref hefyd yn cael modd i fyw yn yr Eisteddfod AmGen eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.