Newyddion S4C

Ailagor pont hanesyddol yn Nhrefynwy wedi galw gan ymgyrchwyr

31/03/2025
Pont Inglis (Llun: Anthony Cope)
Pont Inglis (Llun: Anthony Cope)

Bydd Pont Inglis yn Nhrefynwy, sydd o dan berchnogaeth Y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ailagor i'r cyhoedd ar ôl galwadau yn lleol.  

Mae'r bont, sydd yn arwain i gaeau chwarae Vauxhall yn ogystal â chyfleusterau eraill wedi bod ar gau ers mis Medi 2024.

Ond wedi galwadau gan y cyngor, yr Aelod Seneddol lleol a thrigolion yr ardal, bydd y bont yn ailagor.

Dywedodd Cymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru, sy’n cynnal a chadw’r bont ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn, bod cyllid bellach ar gael i'w hadnewyddu a'i hagor.

"Rydym yn falch o gyhoeddi bod cyllid nawr ar gael i gefnogi adnewyddu Pont Inglis ac ail-sefydlu'r hawl i'r cyhoedd ei defnyddio.

"Rydym nawr yn gweithio'n agos gyda swyddogion Cyngor Sir Fynwy a'n partneriaid yn y diwydiant a bydd y prosiect yn cychwyn cyn hir."

Ychwanegodd y gymdeithas eu bod nhw'n gweithio mor gyflym â phosib.

'Taith o filltir ychwanegol'

Does dim llawer o bontydd o’r fath yn dal i fodoli, yn ôl haneswyr. Fe gafodd pontydd Inglis eu defnyddio yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf  gan eu bod yn hawdd i’w codi ac yn gadarn. 

Cafodd yr un yn Nhrefynwy ei chodi ym 1931 ac fe gafodd ei hadfer ym 1988. 

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C bythefnos yn ôl, dywedodd rhai bod cau'r bont wedi achos straen iddynt.

“Mae hi’n bont sydd ar lwybr saff o Osbaston i Overmonow, a mae’n golygu taith o filltir ychwanegol i bobl gerdded drwy’r dre ar hyd palmant cul,” meddai’r Cynghorydd Emma Bryn. 

“Mae lot fwy o bobl yn gyrru lle roedden nhw’n seiclo neu’n cerdded o’r blaen, felly mae yna lot yn fwy o draffig yn y dre. Ac ma' pobl ddim yn cael y cyfle i gadw’n heini chwaith.

Dywedodd Stuart Ross, sydd mewn cadair olwyn: "Mae'n rhwystr anferth i fy mywyd. Dyma oedd fy nrws i gefn gwlad.

"Nid yn unig bod ysbyty cymunedol yr ochr arall i'r bont dwi’n ei ddefnyddio, yn ogystal â chanolfan gymunedol sydd â dosbarthiadau ar gyfer popeth."

Llun: Anthony Cope

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.