Madeleine McCann: Dynes o Gaerdydd yn y llys ar gyhuddiad o stelcian
Mae dynes 60 oed o Gaerdydd wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth ar ôl ymddangos yn y llys ddydd Gwener ar gyhuddiad o stelcian teulu Madeleine McCann.
Mae Karen Spragg, o ardal Caerau wedi’i chyhuddo o un cyhuddiad o stelcian yn ymwneud ag achosi braw neu drallod difrifol rhwng 3 Mai 2024 a 21 Chwefror eleni, meddai Heddlu Sir Gaerlŷr.
Fe ymddangosodd Spragg yn Llys Ynadon Caerlŷr fore Gwener yn gwisgo tracsiwt brown, sgidiau glas ag yn cario bag coch.
Siaradodd Spragg i gadarnhau ei henw a’i chyfeiriad, gan awgrymu hefyd na fydd hi’n cyflwyno ple.
Fe wnaeth cadeirydd y fainc, Elizabeth Needham, ryddhau Spragg ar fechnïaeth gydag amodau.
Cafodd orchymyn i beidio â chysylltu gyda Mr a Mrs McCann, eu plant na chwaith dau o ffrindiau'r teulu.
Cafodd orchymyn hefyd i beidio ag ymweld â Sir Gaerlŷr oni bai ei bod yn gorfod mynd i’r llys, ac i fyw a chysgu yn ei chartref.
Dywedodd Ms Needham: “Rydych chi wedi clywed amodau eich mechnïaeth, os ydych yn torri’r amodau yma mi fyddwch yn cael eich harestio.”
Fe fydd Spragg yn ymddangos yn Llys y Goron Caerlŷr ar 22 Ebrill.
Gwrthod mechnïaeth
Bydd Spragg yn ymddangos yn y llys y diwrnod hwnnw gyda Julia Wandel, 23, o Lubin, Gwlad Pwyl.
Fe ymddangosodd Wandel yn Llys y Goron Caerlŷr ddydd Gwener i wynebu pedwar cyhuddiad o stelcian yn erbyn y teulu.
Cafodd ei chais am fechnïaeth ei wrthod.
Mae Wandel wedi’i chyhuddo o stelcian Kate, Gerry, Sean ac Amelie McCann rhwng 3 Ionawr 2024 a 15 Chwefror 2025.
Fe honnir iddi fynd i gartref y teulu ar 2 Mai a 7 Rhagfyr y llynedd.
Mae hi hefyd wedi’i chyhuddo o anfon llythyr, galwadau, negeseuon llais a negeseuon WhatsApp at Kate a Gerry McCann, ac anfon negeseuon Instagram at Amelie a Sean McCann rhwng 3 Ionawr a 29 Rhagfyr y llynedd.
Mae diflaniad Madeleine McCann yn dair oed o Praia da Luz yn yr Algarve ym Mhortiwgal pan oedd ei theulu ar wyliau yno yn 2007 yn parhau heb ei ddatrys.