Cymru Premier JD: Cipolwg ar gemau dydd Sadwrn
Tair rownd o gemau sydd ar ôl i’w chwarae yn y Cymru Premier JD ac mae digon yn y fantol ym mhob rhan o’r gynghrair.
Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill y bencampwriaeth am yr 17eg tro yn eu hanes, ac am y pedwerydd tymor yn olynol.
Pe bae’r Seintiau yn llwyddo i guro Cei Connah yn rownd derfynol Cwpan Cymru, yna mi fydd y clwb sy’n gorffen yn ail yn y tabl yn hawlio lle’n Ewrop, ac fe all Pen-y-bont sicrhau’r safle hwnnw ddydd Sadwrn.
Yn y Chwech Isaf, mae’r ras i gyrraedd y gemau ail gyfle yn poethi wedi i Gei Connah gau’r bwlch ar Y Barri i ddim ond dau bwynt.
Ac ar waelod y tabl mae’r frwydr ar ben i Aberystwyth sydd yn sicr o syrthio o’r gynghrair am y tro cyntaf erioed.
Dyma gipolwg ar gemau ddydd Sadwrn:
CHWECH UCHAF
Hwlffordd (3ydd) v Caernarfon (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Gyda dim ond un fuddugoliaeth yn eu chwe gêm ddiwethaf mae Hwlffordd wedi methu a chau’r bwlch ar Ben-y-bont yn y ras am yr ail safle.
Bydd yr Adar Gleision yn awyddus i ddal eu gafael ar y 3ydd safle felly er mwyn gwarantu gêm gartref yn y gemau ail gyfle.
Byddai triphwynt i Gaernarfon yn dod a’r bwlch rhyngddyn nhw a Hwlffordd i lawr i ddau bwynt, a dyna fydd y nod i’r Cofis yn dilyn eu canlyniad arbennig yn erbyn Y Bala nos Wener ddiwethaf (Cfon 5-0 Bala).
Honno oedd buddugoliaeth fwyaf y Caneris ers ennill o 5-0 yn erbyn Airbus UK ym mis Rhagfyr 2019.
Sgoriodd capten y Cofis, Darren Thomas ddwywaith yn y gêm honno yn erbyn Airbus, a daeth mlaen fel eilydd nos Wener ddiwethaf gan wneud ei 400fed ymddangosiad i Gaernarfon.
Hwlffordd sydd â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair (ildio 0.7 gôl y gêm), a gyda 15 llechen lân yn barod y tymor hwn mae Zac Jones wedi sicrhau’r Faneg Aur eleni.
Dyw Hwlffordd heb golli yn eu chwe gornest ddiwethaf yn erbyn y Cofis, yn cynnwys buddugoliaeth ddramatig yn yr eiliadau olaf ar yr Oval ar benwythnos agoriadol y tymor (Cfon 1-2 Hwl).
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ➖✅❌➖❌
Caernarfon: ❌✅❌❌✅
Pen-y-bont (2il) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Seintiau Newydd wedi cwblhau’r dwbl am yr ail dymor yn olynol (Cymru Premier JD a Cwpan Nathaniel MG), a’r targed nesaf i gewri Croesoswallt yw cyflawni’r trebl am y tro cyntaf ers 2015/16.
Fe all Pen-y-bont sicrhau’r ail safle pe bae nhw’n cipio pwynt ddydd Sadwrn, neu os bydd Hwlffordd yn methu a churo Caernarfon.
Mae Pen-y-bont a’r Seintiau Newydd wedi ildio yr un nifer o goliau’r tymor hwn (28 gôl mewn 29 gêm), ond mae’r pencampwyr wedi sgorio 34 o goliau’n fwy na thîm Rhys Griffiths.
Dyw’r Seintiau m’ond wedi ildio un gôl yn eu naw gêm ddiwethaf gan sgorio 31 o goliau.
Bydd criw Craig Harrison yn llawn hyder ar ôl ennill 15 gêm yn olynol, ac am eu bod wedi ennill chwech o’u saith gornest flaenorol yn erbyn Pen-y-bont, yn cynnwys buddugoliaeth gyfforddus o 4-0 yn Neuadd y Parc fis diwethaf.
Ond fe wnaeth Pen-y-bont lwyddo i drechu’r Seintiau o 2-1 ym mis Medi gyda Clayton Green a Chris Venables yn sgorio dau beniad i fechgyn Bryntirion yn Stadiwm Gwydr SDM.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ͏❌❌✅➖✅
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Y Bala (6ed) v Met Caerdydd (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Erbyn hyn mae’r Bala’n sicr o orffen yn is na’r 3ydd safle, a gyda Met Caerdydd hefyd yn annhebygol o godi i’r tri uchaf mi fydd y clybiau yma’n cystadlu mewn rownd go-gynderfynol yn y gemau ail gyfle eleni.
Bydd angen i’r Bala neu Met Caerdydd guro tair gêm felly, os am ennill y gemau ail gyfle a chyrraedd Ewrop unwaith yn rhagor.
Y Bala yw’r unig dîm sydd wedi llwyddo i wneud hyn yn y gorffennol, a hynny yn 2012/13 pan orffennon nhw’n 7fed cyn curo Cei Connah, Bangor a Phort Talbot i hawlio lle’n Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.
Ond dyw momentwm yn sicr ddim o blaid Y Bala gan i’r clwb sicrhau dim ond un pwynt o’r 21 posib ers yr hollt, gan ddioddef eu colled drymaf oddi cartref yn y gynghrair ers Tachwedd 2017 nos Wener ddiwethaf (Cfon 5-0 Bala).
Bydd yr hwyliau braidd yn isel yn y brifddinas yn ogystal gan iddyn nhw ddioddef crasfa’r penwythnos diwethaf hefyd (Met 0-6 YSN).
Dyw Met Caerdydd m’ond wedi colli un o’u naw gornest ddiwethaf yn erbyn Y Bala (ennill 4, cyfartal 4), gan ennill dwy a chael un gêm gyfartal yn erbyn criw Colin Caton y tymor hwn.
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ❌❌❌➖❌
Met Caerdydd: ͏✅❌✅➖❌
CHWECH ISAF
Llansawel (10fed) v Cei Connah (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Fel y gêm ar Barc Jenner mae hon yn ornest bwysig i’r ddau glwb am resymau gwahanol gydag un tîm yn brwydro i osgoi’r cwymp, a’r llall yn ysu i gyrraedd y gemau ail gyfle.
Mae Llansawel yn dechrau’r penwythnos driphwynt uwchben Y Drenewydd, tra bo Cei Connah ddau bwynt y tu ôl i’r Barri yn y ras am y 7fed safle.
Ar ôl curo’r Drenewydd nos Wener mae Cei Connah wedi ymestyn eu rhediad i chwe buddugoliaeth yn olynol ac mae momentwm yn sicr o blaid y Nomadiaid.
Dyw Llansawel heb ennill gêm gartref ers dechrau mis Rhagfyr ac mae eu tair gêm olaf yn erbyn y tri chlwb sydd uwch eu pennau.
Enillodd Llansawel o 1-0 oddi cartref yn erbyn Cei Connah fis diwethaf, ond fe sgoriodd y Nomadiaid bum gôl ar eu hymweliad diwethaf â’r Hen Heol ym mis Awst (Llan 1-5 Cei).
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ✅❌❌➖✅
Cei Connah: ͏ ❌✅✅✅✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.