'Prynu tŷ am y tro cyntaf yn amhosib'
'Prynu tŷ am y tro cyntaf yn amhosib'
Wrth droed mynyddoedd y Pumlumon yn ei sir enedigol, Ceredigion mae Owain Shires yn byw mewn ty cydweithredol gydag 8 o denantiaid eraill.
Mae'r criw yn rhannu'r cyfrifoldeb dros gynnal y tir a'r eiddo er nad ydyn nhw'n berchen ar y ty.
Y gobaith yw symud yn ol i dde'r sir a chynnau tan ar aelwyd sy'n nes at adref.
"Byddai'n dda cael rhywle sy'n fwy sicr neu'n ddiogel yn ariannol, yn enwedig wrth fynd yn hyn, mae'n hollol naturiol dw i'n meddwl.
"Fi 'di rhoi lan, mae'r sefyllfa yn ymddangos mor amhosibl.
"Mae'n anodd gweld ffordd mas."
Mae prynu ty am y tro cyntaf yn gallu bod yn anodd gyda phrisiau tai yng Ngheredigion dros £230,000 ar gyfartaledd ffigwr sy'n uwch na chyfartaledd
Cymru mewn sir lle mae'r incwm ymhlith yr isaf ym Mhrydain.
Mae ymchwil yn disgrifio Cymru fel y wlad lleiaf fforddiadwy drwy Brydain.
A hynny i brynu ty cyntaf.
Er mai Ceredigion sydd ar frig y rhestr honno mae'n anodd hefyd ym Mhowys a Sir Benfro.
Hefyd ar y rhestr mae Caerdydd, Bro Morgannwg a Sir Fynwy.
Yng Nghrymych, mae ymddiriedolaeth tai newydd yn ceisio mynd i'r afael a'r broblem ond mae'r mentrau cymdeithasol yn dal yn brin yng Nghymru o gymharu a'r sefyllfa yn Lloegr.
"Mae'n argyfwng ar gyfer y genhedlaeth ifanc yn methu fforddio i fyw yn eu hardal enedigol.
"Mae'n rhaid ymyrryd a dod mewn gyda ffyrdd o gadw tir ar gyfer datblygiadau tai lleol sy'n fforddiadwy."
Gofynnon ni i Gyngor Ceredigion am ymateb.
Dywedon nhw eu bod yn ymwybodol o'r pwysau.
Mae'r gwasanaeth wedi rhagori ar eu targed o sicrhau bod o leiaf 20% o'r eiddo sy'n derbyn caniatad cynllunio yn y sir yn rhai fforddiadwy.
Byddai'n helpu bod mwy o ddatblygiadau yn digwydd mewn ardaloedd ar gyffiniau'r dref mewn ardaloedd mwy gwledig.
"Fi'n credu byddai hynny'n helpu'r achos o ran y Gymraeg ac ysgolion lleol a chadw pobl leol yn eu hardaloedd ac yn agos i adref."
Cydnabod yr heriau mae Llywodraeth Cymru hefyd gan ddweud bod eu cynllun Cymorth i Brynu gafodd ei ddiwygio fis Rhagfyr wedi helpu tua 15,000 o bobl i brynu eu cartref cyntaf.
Er hyn mae ffigurau heddiw yn dangos mai breuddwyd bell yw prynu ty i nifer fawr o bobl.