Aelodau undeb ym Mhrifysgol Caerdydd yn pleidleisio dros streicio
Mae gweithwyr sy'n aelodau o undeb yr UCU ym Mhrifysgol Caerdydd wedi pleidleisio dros fynd ar streic am eu bod yn anfodlon â chynlluniau i gael gwared â channoedd o swyddi.
Pleidleisiodd 83% o blaid gweithredu'n ddiwydiannol, tra bod 86% yn cefnogi gweithredu mewn dulliau eraill a fyddai'n cynnwys gwrthod cynnal asesiadau.
Pleidleisiodd 64% o aelodau Undeb yr UCU yng Nghaerdydd yn y balot.
Yn ôl yr undeb, bydd staff y brifysgol yn cyfarfod yn ddiweddarach yr wythnos hon i benderfynu ar y camau nesaf.
Gallai hynny fod yn streic neu weithred arall, a fyddai o bosibl yn amharu ar seremonïau graddio Prifysgol Caerdydd yr haf hwn, medd yr undeb.
Mae'r Brifysgol wedi disgrifio'r datblygiad fel un "siomedig" ac maen nhw'n annog yr undebau i gydweithio gyda nhw.
'Unedig'
Dywedodd llywydd cangen Undeb yr UCU ym Mhrifysgol Caerdydd, Dr Joey Whitfield: "Mae canlyniad y balot hwn yn dangos fod staff Caerdydd yn unedig yn eu gwrthwynebiad i'r toriadau creulon a diangen y mae'r rheolwyr yn ceisio eu gorfodi.
"Mae'n bryd i arweinwyr Prifysgol Caerdydd wrando ar staff a chydnabod y gefnogaeth enfawr sydd gennym, gan y cyhoedd, yn wleidyddol, yn ddiwylliannol a chymunedol.
"Mae'n rhaid iddyn nhw ddefnyddio'r £188 miliwn sydd ar gael ar eu cyfer, mewn modd gofalus yn seiliedig ar dystiolaeth, er mwyn gwella'r sefyllfa ariannol heb ddinistrio bywydau ein haelodau
"Mae gweithredu'n ddiwydiannol wastad yn anodd, a wastad yn opsiwn olaf. Ond os nad yw'r brifysgol yn fodlon trafod, a dal yn ôl ar eu cynlluniau trychinebus, ni fydd gennym unrhyw ddewis."
Cadarnhaodd Prifysgol Caerdydd eu bwriad i gael gwared â 400 o swyddi llawn amser yn y sefydliad fis Ionawr.
Cafodd ymgynghoriad ffurfiol ei agor ar newidiadau arfaethedig "gyda’r bwriad o wireddu ei hamcanion a diogelu dyfodol hirdymor y Brifysgol."
Mae'r ymgynghoriad yn para am 90 diwrnod, ac mae disgwyl i’r cynlluniau terfynol gael eu hystyried gan Gyngor y Brifysgol ym mis Mehefin.
Diffyg ariannol
Daeth y cyhoeddiad yn ystod cyfnod o heriau ac ansicrwydd ariannol i brifysgolion ar hyd a lled Cymru, gyda Chaerdydd yn wynebu diffyg ariannol o £30m y llynedd.
Mae'r brifysgol yn edrych am doriadau mewn adrannau yn cynnwys nyrsio, cerddoriaeth ac ieithoedd modern - gan ystyried uno rhai adrannau hefyd.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Newyddion S4C eu bod yn yn deall y bydd yr holl swyddi academaidd yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael eu diogelu, er gwaethaf cynlluniau i dorri cannoedd o swyddi yn y brifysgol.
Mae Newyddion S4C hefyd yn deall bod holl swyddi yn yr adran gyfrifiadureg bellach wedi eu diogelu yn ogystal â rhyw 350 o swyddi yn yr ysgol feddygaeth.
Yn dilyn 45 cais llwyddiannus am ddiswyddiad gwirfoddol, bydd y brifysgol nawr yn ymgynghori ar dorri 355 o swyddi yn hytrach na'r 400 a gafodd ei gyhoeddi'n wreiddiol, ddiwedd mis Ionawr.
'Aflonyddwch'
Mewn ymateb i'r newyddion am benderfyniad aelodau UCU, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd: "Mae hyn yn siomedig gan y bydd gweithredu diwydiannol yn anorfod yn achosi aflonyddwch i rai o'n myfyrwyr.
"Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau ei effaith.
"Fodd bynnag, mae'n bwysig pwysleisio bod ein cynigion yn parhau i fod yn destun ymgynghoriad 90 diwrnod parhaus.
"Eu nod yw sicrhau dyfodol hirdymor y Brifysgol a byddem yn annog UCU, a’n hundebau campws eraill, i barhau i weithio gyda ni.”