Newyddion S4C

Cwest Tonysguboriau: Menyw wedi marw ar ôl cael ei saethu yn ei brest

Joanne Penney
Joanne Penney

Mae cwest wedi clywed bod menyw wedi marw ar ôl cael ei saethu yn ei brest a hynny'n dilyn "digwyddiad treisgar".

Cafodd cwest i farwolaeth Joanne Marie Penney, 40 oed o Aberdâr ei agor gan Uwch Grwner Canol De Cymru, Graeme Hughes, yn Llys y Crwner ym Mhontypridd ddydd Mawrth.

Bu farw Ms Penney yn Nhonysguboriau ar ôl cael ei saethu yn ei brest gan achosi difrod i'w chalon a’i hysgyfaint chwith meddai'r crwner. 

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i’r digwyddiad yn Llys Illtyd yn ardal Green Park o Donysguboriau am 18:10 ar nos Sul, 9 Mawrth. 

Wrth agor y cwest, dywedodd Beverley Morgan o swyddfa'r Crwner bod Ms Penney wedi marw "o ganlyniad i drais".

Fe ddaeth swyddogion o hyd iddi ar ei chefn, a hithau’n anymatebol, meddai.

Bu farw Ms Penney yn y fan a’r lle er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys i’w hachub.

Dywedodd yr Uwch Grwner Graeme Hughes wrth y gwrandawiad: “Yn seiliedig ar y dystiolaeth honno mae gen i ddigon o reswm i amau ​​mai trais oedd achos marwolaeth Ms Penney, felly mae’n ddyletswydd arnaf i barhau â’r ymchwiliad i amgylchiadau ei marwolaeth.

“Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol bod unigolion wedi’u harestio a’u cyhuddo ac felly byddaf yn atal yr ymchwiliad hwn hyd nes y daw’r achosion troseddol hynny i ben.

“Hoffwn drosglwyddo fy nghydymdeimlad fy hun i deulu a ffrindiau Ms Penney.”

Cafodd y cwest ei ohirio wrth i ymchwiliadau’r heddlu barhau. 

Mae chwech o bobl wedi ymddangos yn y llys yn flaenorol mewn cysylltiad â'i marwolaeth - pump wedi eu cyhuddo o'i llofruddiaeth ag un ar gyhuddiad o gynorthwyo troseddwr.

Mae Jordan Mills-Smith, 32, o Bentwyn, Caerdydd; Marcus Huntley, 20, o Laneirwg, Caerdydd; Melissa Quailey-Dashper, 39, o Gaerlŷr; Joshua Gordon, 27, o Oadby, Sir Gaerlŷr; a Tony Porter, 68, o Braunstone Town, Sir Gaerlŷr, i gyd wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth.

Mae Porter hefyd wedi’i gyhuddo o gymryd rhan yng ngweithgareddau troseddol grŵp troseddau trefniadol. Mae Kristina Ginova, 21, o Oadby, Sir Gaerlŷr, wedi’i gyhuddo o gynorthwyo troseddwr.

Yn dilyn ei marwolaeth, dywedodd teulu Ms Penney mewn teyrnged iddi: “Rydym wedi ein syfrdanu gan golled drasig ein hannwyl Joanne. Roedd hi'n ferch, mam, chwaer, a nith – roedd hi’n cael ei charu gan bawb oedd yn ei hadnabod. 

"Ni wnawn fyth anghofio ei charedigrwydd, ei chryfder, a'i chariad at ei theulu.

“Yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn, rydym yn gofyn am breifatrwydd wrth i ni alaru a dechrau prosesu’r golled annirnadwy hon.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.