Putin ‘ddim yn ddyn drwg’ a cynllun Starmer ‘yn rhy syml’ medd cennad Trump
Mae un o genhadon Donald Trump wedi dweud nad ydi Vladmir Putin “yn ddyn drwg” a bod cynllun Keir Starmer ar gyfer Wcráin yn “rhy syml”.
Roedd Steve Witkoff, cennad arbennig (special envoy) Donald Trump sydd wedi bod yn trafod gyda Vladmir Putin yn y dyddiau diwethaf, yn siarad ar raglen The Tucker Carlson Show.
Dywedodd nad oedd yn cytuno â chynllun Prif Weinidog y DU, Keir Starmer i yrru milwyr i Wcráin i gadw’r heddwch.
“Mae’r syniad yno bod yn rhaid i ni i gyd fod fel Winston Churchill, a bod y Rwsiaid yn mynd i orymdeithio ar draws Ewrop,” meddai.
“Rwy'n meddwl bod hynny'n afresymol.”
Dywedodd Mr Witkoff, a wnaeth gyfarfod â’r Arlywydd Putin 10 diwrnod yn ôl, fod pennaeth llywodraeth Rwsia wedi bod yn “raslon” ac yn “agored” gydag ef.
“Dydw i ddim yn ystyried Putin yn ddyn drwg,” meddai.
“Mae'n sefyllfa gymhleth, y rhyfel a'r holl bethau a arweiniodd ato.
“Dyw un person ar ei ben ei hun byth yn gyfrifol, iawn? Felly dwi'n meddwl ein bod ni'n mynd i ddatrys y peth.”
'Sylfaenol'
Awgrymodd Steve Witkoff mai “mater canolog” wrth wraidd y rhyfel oedd bod Rwsia yn ystyried Wcráin yn “wlad ffug”.
“Mae yna syniad yn Rwsia bod Wcráin yn wlad ffug, a bod y rhanbarthau hyn yn glytwaith,” meddai.
“A dyna achos sylfaenol, yn fy marn i, y rhyfel hwn, bod Rwsia yn ystyried bod y pum rhanbarth hynny yn perthyn iddyn nhw ers yr Ail Ryfel Byd.
“Ac mae hynny'n rhywbeth nad oes neb eisiau siarad amdano. Wel, dwi'n ei ddweud yn uchel.
“Sut ydym ni'n mynd i ddatrys y peth hwn oni bai ein bod yn datrys y mater canolog sy'n sail i'r gwrthdaro?”