
Cawr o oes yr iâ yn ymddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Bydd golygfa drawiadol yn croesawu ymwelwyr i Brif Neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o ddydd Sadwrn ymlaen wedi i sgerbwd mamoth anferth gael ei godi yno.
Mae’r mamoth wedi’i brintio mewn 3D, ac yn dair medr o daldra a phum medr o hyd.
Mae’r sgerbwd yn gopi o esgyrn mamoth gafod eu darganfod ym 1986 ar fferm Condover ger Amwythig.

Ar ôl cael eu cloddio gan dîm o wyddonwyr a gwirfoddolwyr esgyrn, daeth i’r amlwg fod yr esgyrn rhwng 14,000 a 14,500 mlwydd oed - felly dyma’r esgyrn mamoth olaf i gael eu cofnodi ym Mhrydain, a rhai o’r olaf yn Ewrop.
Cafodd esgyrn o leiaf 3 mamoth bach (3–6 oed) eu darganfod gyda’r oedolyn, ond doedden nhw ddim yn perthyn i’w gilydd.
Roedd y mamothiaid yn byw ochr yn ochr â phobl (Homo sapiens a Neanderthal), ac roedd pobl yn eu hela er mwyn bwyta’r cig a defnyddio’r ffwr ar gyfer dillad a chytiau.
Byddai oedolion gwrywaidd yn gadael yr haid ac yn crwydro ar ben eu hunain neu mewn grwpiau bach o wrywod, tra bod yr oedolion benywaidd a’u rhai bach yn byw gyda’i gilydd mewn grwpiau.

Dywedodd Mared Maggs, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: ‘Rydym yn hynod o falch i gyhoeddi bod y creadur anhygoel yma wedi cyrraedd Prif Neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
“Fe fydd ymwelwyr yn cael cyfle unigryw i brofi maint pur y mamoth, gan danio rhyfeddod a chwilfrydedd wrth iddynt ymchwilio i fyd diddorol y creaduriaid hyn.”
Dywedodd y bydd yr arddangosfa yn “dyrchafu'r profiad o’r amgueddfa i ymwelwyr newydd a rhai sy’n dychwelyd” a’i bod yn “hynod o hapus i gyrraedd y pwynt lle rydym yn gallu dadorchuddio darn anhygoel o hanes".
“Ry'n ni methu aros i groesawi bawb a rhannu'r stori hudol tu ôl i’r cawr o oes yr iâ,” meddai.

Dywedodd Caroline Buttler, Pennaeth Datblygu Casgliadau a palaeontolegydd: ‘Dyma ychwanegiad newydd gwych i deulu Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
"Mae’n anhygoel ein bod wedi gallu ail-greu’r sgerbwd hwn gyda thechnoleg fodern fel printio 3D."
Yn nes ymlaen eleni bydd Amgueddfa Cymru yn gofyn am help i roi enw i’r mamoth, gyda manylion pellach i’w cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn yr amgueddfa dros yr haf.