Y gyrrwr rali Elfyn Evans yn siarad Cymraeg yn unig fel rhan o brotest
Mae Elfyn Evans ymysg gyrwyr rali a benderfynodd siarad eu mamiaith yn unig gyda'r wasg ar ôl rasys yr wythnos hon er mwyn protestio yn erbyn dirwyon mawr am regi.
Bu gyrwyr sy’n cystadlu ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd (WRC) yn aros yn dawel neu’n siarad eu hieithoedd eu hunain yn unig mewn cyfweliadau diwedd cymal yn Rali Safari Kenya.
Penderfynodd Elfyn Evans o Ddolgellau siarad Cymraeg gyda’r wasg, cam na wnaeth unrhyw ddrwg i'w obeithion wrth iddo arwain y rali ar ôl cymal ddydd Gwener.
“Fydd dim lot yn cael ei ddweud penwythnos yma fel mae’n siŵr eich bod chi wedi deall erbyn hyn,” meddai wrth ohebwyr teledu.
Daw’r brotest wedi i gorff llywodraethu’r FIA roi dirwy o 10,000 ewro ($ 10,907), gyda 20,000 ewro arall wedi ei atal, i’r gyrrwr Ffrengig Hyundai, Adrien Fourmaux, am regi mewn cyfweliad teledu ar ddiwedd rali yn Sweden ym mis Chwefror.
Dywedodd WoRDA, corff sydd wedi ei sefydlu gan y gyrwyr, bod y ddirwy dros ben llestri o ystyried tal a chyllidebau gyrwyr a’u timoedd, a bod bob gair yn ystod ras wedi ei recordio.
“Rydyn ni i gyd yn cytuno i drio peidio a bod yn ddigywilydd i mewn i’r meicroffon,” medden nhw yn eu datganiad diweddaraf.
“Ar yr un pryd, mae angen cadw rhyddid mynegiant a rhoi lle i emosiwn tra heb i yrwyr ofni cael eu cosbi mewn unrhyw ffordd.”
Wrth ymateb i’r brotest dywedodd yr FIA eu bod nhw, fel cyrff chwaraeon eraill, yn cynnal cod ymddygiad gyda disgwyliadau ar gyfer gyrwyr a’u timoedd.
“Mae cefnogwyr ifanc yn edrych i fyny at yrwyr ac maen nhw’n gynrychiolwyr ar gyfer y gamp ar draws y byd,” medden nhw.
“Mae’r modd y mae gyrwyr yn ymddwyn wrth yrru yn bwysig.”