Newyddion S4C

Tân yn cau stryd fawr Porthmadog fore Sadwrn

Y stryd ym Mhorthmadog

Roedd rhan o Stryd Fawr Porthmadog ar gau i deithwyr fore Sadwrn oherwydd tân mewn eiddo yn yn y dref.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod eu criwiau yn bresennol ar ôl iddyn nhw gael eu galw am 4.30 a bod y ffordd yn y dref yng Ngwynedd ar gau.

Roedd y tân ar Deras y Rheilffordd ger maes parcio Iard-yr-Orsaf. Mae'r stryd fawr bellach wedi ail-agor.

“Rydym yn gofyn i drigolion lleol osgoi’r ardal a chadw ffenestri a drysau ar gau,” meddai Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ben bore.

Image
Stryd fawr Porthmadog
Lluniau gan Dawn-Louise Jones

Dywedodd yr AA fore Sadwrn bod y ffordd ar gau i’r ddau gyfeiriad o’r Stryd Fawr i Deras Cambrian oherwydd “tân difrifol”.

Roedd y tân hefyd wedi effeithio ar drafnidiaeth gyhoeddus gyda chwmni Lloyds Coaches yn dweud y bydd gwasanaeth G23 o’r stryd fawr yn dechrau a gorffen ym mharc Porthmadog.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.