
‘Rhoi organ yn achub bywyd’: Wyth mil yn disgwyl am drawsblaniad yn y DU
Mae mam o Ddyffryn Nantlle sydd wedi rhoi aren i’w mab yn annog pawb i drafod rhoi organau.
Mae 100 o drawsblaniadau aren yn cael eu gwneud bob blwyddyn yng Nghymru, ac ym Mis Hydref llynedd roedd Ioan Pollard, mab Eleri Pollard yn un o’r rheini.
Dywedodd Eleri Pollard: “Ma’ rhoi organau yn achub bywydau, ac felly mae mor mor bwysig bod ni gyd yn ystyried rhoi os ydan ni’n gallu.”
Roedd Ioan Pollard wedi bod yn derbyn triniaeth dialysis am saith mlynedd cyn cael trawsblaniad aren gan ei fam.
“Pan ges i wybod bod Ioan angen aren newydd, o’n i yn gwybod yn syth bod fi am roi os oeddwn i yn match," meddai.
"Roedd gan Ioan gymlethdodau iechyd felly ma’r disgwyl wedi bod yn hir.
“Ond pan ges i wybod fy mod yn gymwys i allu rhoi aren i Ioan, o’n i mor hapus a nes i ddim meddwl ddwywaith.”
Inline Tweet: https://twitter.com/S4C/status/1903040152865321081
Mae hi’n 10 mlynedd eleni ers i’r gyfraith ar roi organau newid yng Nghymru. Yn 2015 cyflwynwyd cyfraith "optio allan”.
Mae’n golygu bod pob oedolyn yn cael ei ystyried i fod wedi cytuno i fod yn rhoddwr organau posibl pan fydd yn marw, oni bai eu bod wedi cofnodi penderfyniad i beidio â rhoi neu eu bod mewn grŵp sydd wedi’i eithrio.
Bwriad y newid yn y gyfraith oedd cynyddu nifer yr organau sydd ar gael i'w rhoi.
Ond yn y pen draw teuluoedd sydd â’r gair olaf, ac gyda’r hawl i wrthod rhoi organau eu teuluoedd.
Mae mwy na 8,000 o bobl yn aros am drawsblaniadau aren yn y DU, yn ôl ffigurau diweddaraf y GIG, ac mae cymaint â pump o bobl yn marw bob wythnos o ganlyniad i beidio â dod o hyd i roddwr.
Mae Eleri yn falch iawn o’r gyfraith ond yn dweud bod angen i deuluoedd drafod yn agored am roi organau.
Mae Ioan yn parhau i wella yn dilyn ei drawsblaniad, ac Eleri yn ddiolchgar o’r cyfle i allu rhoi ei haren iddo.
“Dwi’n teimlo yn ffodus bod fi’n wedi gallu rhoi y rhodd yma i Ioan, dwi isio i Ioan gael byw ei fywyd, mae o’n haeddu o," meddai.
“Wrth gwrs cyn y mynd i theatr roeddwn ni yn eithaf nerfus, sw’n i’n deud clwydda sw’n i ddim, ond mi oedd o i gyd werth o.”

Diolchgar
Mae Ioan yn ddiolchgar iawn i’w fam.
“Fedrai mond teimlo fod yn freintiedig fod yna berson arall wedi derbyn rhoi ei hunain mewn fath sefyllfa i drio gwella mywyd i," meddai.
"A byddai’n gwneud fy ora i barchu’r aren yma dwi wedi cael gan mam.
“Mae o yn teimlo yn rhyfedd na fyddai yn derbyn dialysis rhagor, fe wnaeth o gadw fi’n fyw am flynyddoedd ond dwi’n edrych ymlaen at y bennod nesaf.”
Er hynny, mae’r bennod yn un chwerw felys i’r teulu, gan fod gŵr Eleri a thad Ioan, John hefyd ar y rhestr aros am drawsblaniad aren.
Dywedodd Ioan: “Mae hi wedi bod yn gyfnod rhyfedd i ni fel teulu achos, grêt, dwi di cael aren wan a dwi’n edrych ymlaen ond yn gefndir i hyn mae fy nhad wedi bod yn byw efo cyflwr ar ei arennau ers bod o’n ei ugeiniau a bellach yn dod nes at ddechrau dialysis ac angen trawsblaniad.
“Ma' fatha bo' ni’n ail ddechrau’r cloc wan iddo fo gael yr alwad ffôn yna yn deud fod 'na aren iddo fo. Mae o di bod yn aros tair blynedd a ddim un galwad eto, sydd eto yn amlygu’r ella’r prinder organau sydd ar gael. Ond da ni gyd ond yn gobeithio y ddaw’r alwad yna yn hwyr neu hwyrach. “
Mae pwysigrwydd rhoi organau yn parhau i fod yn neges bwysig i Eleri ac mae hi’n gobeithio y bydd rhannu ei thaith hi ac Ioan yn annog y drafodaeth.
“‘Da ni yma, a da ni’n falch o fod yma a ‘da ni’n lwcus iawn iawn fod Ioan dal yma hefo ni, yr unig beth da ni isio rŵan ydi aren i John, mae o dal ar y rhestr aros. Da ni gyd jyst yn gweddïo y daw na un iddo fo hefyd,” meddai Eleri.
“Felly os oes gynoch chi berthynas ar restr aros i gael aren, gobeithio mod i’n hysbyseb da i rywun deimlo bod nhw’n gallu rhoi i rywun.”
Gwyliwch 'Marw Isio Byw' nos Lun 24 Mawrth am 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.