Newyddion S4C

Seren Gavin and Stacey wedi helpu Matthew Aubrey i ddysgu Cymraeg ar gyfer drama S4C

Matthew Aubery

Fe wnaeth un o sêr cyfres Gavin and Stacey helpu'r actor Matthew Aubrey i ddysgu Cymraeg ar gyfer rôl mewn drama ar S4C.

Mae Matthew Aubrey yn chwarae rhan Jamie yn y gyfres newydd 'Ar y Ffin', ond pan ymgeisiodd am y rhan nid oedd yn gallu siarad Cymraeg.

Roedd ei ffrind a'r actor Steffan Rhodri, sydd yn adnabyddus am chwarae cymeriad Dave Coaches yn Gavin and Stacey, wedi rhoi cymorth iddo wrth ddysgu Cymraeg ar gyfer y rôl.

Ond yn wahanol i ddysgu trwy wersi, fe wnaeth y ddau actor o dde Cymru benderfynu'r ffordd orau i ddysgu oedd trwy acen a synau.

"Danfonais i dâp allan ar gyfer y rôl, ond doeddwn i ddim yn gwybod ei fod yn Gymraeg a Saesneg," meddai wrth Newyddion S4C.

"Fe wnaethon nhw ddod 'nôl ataf yn gofyn i mi ddod i wneud golygfa yn Gymraeg, ond doeddwn i ddim yn siarad unrhyw Gymraeg o gwbl.

"Fe wnaeth ffrind i mi helpu, ac roeddwn i bron heb fynd achos roeddwn i mor ofn gwneud yn y Gymraeg."

Image
Steffan Rhodri
Ymddangosodd Steffan Rhodri ym mhennod olaf Gavin and Stacey a gafodd ei ddarlledu ar Ddydd Nadolig (Llun: BBC)

Wedi iddo gael ei ddewis ar gyfer y gyfres, dechreuodd Matthew, sydd bellach yn byw yn Llundain, y broses ffilmio yng Nghaerdydd a Chasnewydd.

Dywedodd y cynhyrchwyr y bydden nhw'n cael tiwtor iddo, ond roedd eisiau Steffan Rhodri i'w helpu wedi iddo wneud ar gyfer y clyweliad.

Gan fod Steffan yn byw yn Nhreforys yn Abertawe a Matthew yn wreiddiol o Bort Talbot, roedd Matthew yn credu byddai'n gallu dysgu o acen Steffan gan fod y ddau yn dod o ardaloedd agos i'w gilydd.

"Roedd rhaid i fi ddewis acen ar gyfer y cymeriad, ac mae Treforys a Phort Talbot yn ddigon agos, felly roedd yn ddewis naturiol," meddai.

"Eisteddom gyda'n gilydd a siarad drwy'r golygfeydd, a byddai Steff yn recordio fi ac wedyn yn ei arafu er mwyn i fi allu gwrando 'nôl.

"Felly roeddwn i'n mynd trosodd a throsodd yr holl olygfeydd a gwneud yn siŵr bod y synau yn gywir a bod popeth yn swnio'n iawn pan oeddwn i'n siarad."

'Fel neidio allan o awyren'

Mae Matthew Aubrey wedi actio mewn nifer o gyfresi a ffilmiau gwahanol, gan gynnwys Black Mirror, Silent Witness a Made in Dagenham.

Er ei fod wedi actio mewn nifer o gyfresi dwyieithog fel Cleddau, mae wedi chwarae'r Cymro ond nid Cymro Cymraeg.

Bellach mae'n cael gwersi Cymraeg unwaith yr wythnos.

Hoffai wneud mwy o actio yn y Gymraeg yn y dyfodol a dywedodd bod dysgu'r iaith "fel neidio allan o awyren."

"Hwn oedd dechrau'r daith, ond roeddwn i'n teimlo bod rhaid i fi wneud e achos roeddwn i eisiau dysgu yn iawn unwaith wnaethom orffen y ffilmio," meddai.

"Mae e fel neidio allan awyren, ofnus ond yn gyffrous hefyd. Roeddwn i'n benderfynol o actio'n dda a gwneud i'r cymeriad swnio fel Cymro Cymraeg.

Image
Matthew Aubrey
Mae Matthew Aubrey eisiau gwneud mwy o actio yn y Gymraeg. (Llun: S4C)

Ychwanegodd: "Roedd pawb ar y set yn cynnig cymorth a dwi'n ddiolchgar iawn achos wnaethon nhw roi cyfle gwych i mi.

"Fe allwch chi weld bod pobl sydd yn medru’r Gymraeg wir eisiau i chi allu ei siarad hefyd.

"Dwi eisiau gwneud mwy o actio yn y Gymraeg nawr, hwn oedd un o'r gorau a fy hoff swyddi.

"Dwi nawr yn gallu gweld bod rhan o Gymru nad oeddwn i'n gwybod fy mod yn colli allan arni.

"Dydych chi byth yn gwybod beth sydd yn mynd i ddigwydd, adeg yma'r llynedd roeddwn i newydd gael y swydd a doeddwn i ddim yn siŵr beth oedd mynd i ddigwydd."

Prif lun: S4C

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.