Plaid Cymru eisiau cyflwyno 'taliad plant trawsnewidiol' os ydyn nhw'n ennill yr etholiad
Plaid Cymru eisiau cyflwyno 'taliad plant trawsnewidiol' os ydyn nhw'n ennill yr etholiad
Mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud y byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn cyflwyno taliad plant ‘trawsnewidiol’ i fynd i'r afael â lefelau cynyddol o dlodi plant yng Nghymru.
Yn ystod araith ei arweinydd, dywedodd Mr ap Iorwerth y byddai Plaid Cymru yn dechrau'r broses o weithredu'r taliad i "gynnal teuluoedd a chefnogi cymunedau", pe byddent yn ennill etholiad nesaf y Senedd, yn 2026.
Wrth annerch cynrychiolwyr yng nghynhadledd Gwanwyn Plaid Cymru yn Llandudno, dywedodd Mr ap Iorwerth "ni allwn barhau i fethu'r union bobl yr ydym yn dibynnu arnynt ar gyfer dyfodol mwy disglair", a beirniadodd Llafur a'r Ceidwadwyr am lefelau cynyddol o dlodi yng Nghymru.
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn dadansoddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree a ddatgelodd mai'r Alban yw'r unig ran o'r DU lle rhagwelir y bydd cyfraddau tlodi plant yn gostwng erbyn 2029, ble Taliad Plant yr Alban yn cael ei weithredu.
Yng Nghymru, rhagwelir y bydd tlodi plant yn cynyddu o 32.3% ym mis Ionawr 2025 i 34.4% erbyn mis Ionawr 2029.
Dywedodd Mr ap Iorwerth y byddai taliad 'Cynnal' Plaid Cymru yn fudd uniongyrchol wythnosol “i gefnogi'r rhai sydd ei angen fwyaf”.
Manteision
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth:
"Mae yna lawer y gall Cymru fod yn falch ohono - ond mae staen cenedlaethol yn parhau, marc andeladwy ar gymunedau hyd a lled ein gwlad. A dyna dlodi, a thlodi plant yn arbennig.
"Gan dynnu ar y profiad yn yr Alban a dysgu o'i fanteision trawsnewidiol, gallaf gyhoeddi heddiw y bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn dechrau'r broses o weithredu taliad plant yng Nghymru – budd-dal uniongyrchol wythnosol i gefnogi'r rhai sydd ei angen fwyaf.
"Ar ôl 14 mlynedd o lymder o dan y Torïaid a 26 mlynedd o amwysedd o dan Lafur - byddai hon yn llywodraeth newydd wedi'i gwreiddio yng ngwerthoedd tegwch a chyfiawnder cymdeithasol.
"Bydd y taliad 'Cynnal' fel y'i gelwir yn gwneud yn union hynny – i gynnal teuluoedd a chefnogi cymunedau.
"Bydd y rhai sy'n ei dderbyn yn teimlo'n llai pryderus am wneud penderfyniadau – gan ddod yn fwy cynhyrchiol yn y tymor hir.
“Cynhadledd, nid yw gwneud dim yn opsiwn.”
Ymateb
Wrth ymateb i'r araith dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: “Unwaith eto mae Rhun ap Iorwerth yn dangos ei fod yn llawn aer poeth.
“Beth yw cynllun mawr Plaid Cymru i Gymru? Bygwth annibyniaeth os na chawn nhw eu ffordd. Annibyniaeth a fyddai’n rhoi cymydog mewn cystadleuaeth â chymydog, dyled yn codi, biliau’n codi a phlymio Cymru i anhrefn.
“Nid dyna’r hyn yr ydym ni yn Llafur Cymru ei eisiau.
"Rydym yn canolbwyntio ar gyflawni ar y meysydd sydd o bwys i bobl – dod â rhestrau aros y GIG i lawr, darparu prydau poeth bob dydd i bob myfyriwr ysgol gynradd, gwella ein seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus, a thyfu economi Cymru fel ein bod yn rhoi punnoedd ym mhocedi pobl.”