Newyddion S4C

Norofeirws: Atal ymwelwyr i ysbytai Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro

21/03/2025
Ysbyty Athrofaol Cymru (mick Lobb)

Ni fydd ymwelwyr yn cael ymweld ag ysbytai Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro am y tro wedi "cynnydd sylweddol" mewn achosion o Norofeirws.

Mewn datganiad fore dydd Gwener, dywedodd y Bwrdd Iechyd fod achosion o'r haint mewn ysbytai wedi arwain at gau wardiau a rhoi pwysau aruthrol ar wasanaethau.

"O ganlyniad i’r sefyllfa heriol hon, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i weithredu Polisi Dim Ymweld a chau’r Bwrdd Iechyd i bob ymweliad cyffredinol i reoli’r achos hwn. 

"Nid yw hwn yn benderfyniad yr ydym wedi'i wneud yn ysgafn, ond yn un sy'n hanfodol i amddiffyn ein cleifion, staff ac ymwelwyr a lleihau lledaeniad yr haint.

"Ystyrir eithriadau, yn enwedig ar gyfer y cleifion hynny sy'n ddifrifol wael neu'n derbyn gofal diwedd oes, partneriaid geni ac Ysbyty Plant Cymru. 

"Byddwn yn adolygu'r cyfyngiadau hyn yr wythnos nesaf os bydd y sefyllfa wedi gwella.

Dywedodd y bwrdd iechyd na fyddai hyn yn effeithio ar apwyntiadau allanol, "oni bai bod yr adran yn cysylltu â chi yn uniongyrchol i esbonio fel arall."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.