Newyddion S4C

Cân Gymraeg yn cyrraedd brig siart reggae iTunes am y tro cyntaf

21/03/2025
Aleighcia Scott

Mae cân Gymraeg gan Aleighcia Scott wedi cyrraedd brig siart reggae iTunes, y tro cyntaf i gân Gymraeg wneud hynny erioed.

Fe gafodd ei chân 'Dod o'r Galon' ei rhyddhau ddydd Gwener.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd y gantores: “Rydyn ni wedi ei wneud o!

“Mae can Gymraeg wedi cyrraedd rhif un ar y siartiau iTunes Reggae!

“Diolch o galon pawb.”

Dywedodd wrth Newyddion S4C cyn rhyddhau’r gân ei bod hi’n teimlo’n “nerfus” ond yn “gyffrous”.

"Mae mor cyffrous i fi achos mae’n teimlo fel un mwy accomplishment yn Cymraeg i fi," meddai wrth Newyddion S4C.

"Dwi’n teimlo’n cyffrous am gael y single newydd yn Cymraeg, a'r un cyntaf yn Cymraeg.

"Felly dwi’n teimlo bach yn nerfus hefyd. Ond ie, mwy cyffrous.

"Dwi ychydig bach yn nerfus os fi am cyrraedd rhif 1 yn y charts reggae gyda cân Cymraeg.

"Ond mae'n bwysig i fi i dangos pobl bod e'n bosib.

"Bydd e'n grêt gweld cân Cymraeg ar top y reggae iTunes charts."

Nid dyma’r tro cyntaf iddi gyrraedd brig siartiau albwm reggae iTunes, gan wneud hynny gyda chân Saesneg yn 2023.

Yn ogystal, cyrhaeddodd restr hir Albwm Reggae y Flwyddyn yng Ngwobrau’r Grammys.

Dechreuodd y gantores o Dredelerch, Caerdydd ei thaith i ddysgu’r iaith dair blynedd yn ôl, a bellach mae hi'n un o bedwar hyfforddwr ar gyfres Y Llais ar S4C.

Dywedodd bod cymryd rhan yn y gyfres wedi rhoi mwy o hyder iddi wrth siarad Cymraeg, ond ei bod hi dal eisiau pwysleisio nad oes angen bod yn berffaith wrth siarad yr iaith.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.