Newyddion S4C

Gêm bêl-droed yn hollti barn cefnogwraig Kazakhstan a'i gŵr o Gymru

Heno Newydd 2025 21/03/2025
Malika Jones a'i theulu

Fe fydd Cymru'n herio Kazakhstan ar ddechrau eu hymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2026 yng Nghaerdydd nos Sadwrn, ac i un cwpl o Wynedd fe fydd y ddau dîm yn cael eu cefnogi ar y noson.

Bydd Malika Jones, sydd o Kazakhstan yn wreiddiol, yn mynd i wylio’r gêm gyda'i gŵr Gareth Jones, sy’n Gymro.

Mae Malika a Gareth yn “edrych ymlaen yn arw” at y gêm, er y gwahaniaeth fydd rhwng y ddau am pa dîm i'w gefnogi.

Cafodd Malika ei magu yn Almaty, Kazakhstan tan iddi droi’n 18, cyn mynd ymlaen i astudio yn y brifysgol yn Prague lle wnaeth hi gyfarfod Gareth.

Maen nhw bellach wedi bod yn byw yn Bontnewydd, Caernarfon, ers pedair blynedd gyda’u plant, Osian ac Alun.

Image
Malika Jones a'i meibion
Mae Malika a'i gŵr, Gareth, wedi bod yn byw ym Montnewydd ers pedair blynedd. (Llun: Malika Jones)

Ers iddyn nhw briodi saith mlynedd yn ôl, mae Malika wedi “pigo’r iaith i fyny yn hollol naturiol”, er i’r Gymraeg fod “yn gwbl newydd, cwbl wahanol i be’ mae Mali wedi arfer ei siarad.” meddai Gareth.

“Mae hi’n siarad Rwsieg a Kazak, yn ogystal â saith iaith arall”.

Yn ôl Gareth, mae eu hogiau ifanc yn “ymwybodol iawn o’u cenedlaetholdeb ddeuol” ac yn “falch iawn o fod yn Gymry ac yn Kazak.”

Cymraeg yw eu hiaith gyntaf, ond maen nhw’n dysgu Rwsieg a Kazak hefyd.

Image
Malika Jones a Gareth Jones
Mae Malika wedi gallu “pigo’r iaith i fyny yn hollol naturiol” yn ôl ei gŵr.  (Llun: Malika Jones)

Mae Gareth wedi teithio i Kazakhstan bedair gwaith yn y gorffennol, ac mae’n disgrifio’r wlad fel un “wahanol iawn i Gymru”.

“Ma’i mor fawr, mor eang ac mae’r mynyddoedd yna’n ddipyn mwy na be sy’ ‘na yng Nghymru” meddai.

Image
Malika Jones a Gareth Jones yn Kazakhstan
Mae Kazakhstan 130 gwaith yn fwy na Chymru.  (Llun: Malika Jones)

Kazakhstan ydy’r nawfed wlad fwyaf yn y byd, ac mae wedi ei lleoli yng nghanolbarth Asia rhwng Rwsia a Tsieina.

Mae 15% o’r wlad yn rhan o Ewrop, ac felly mae Kazakhstan yn cael bod yn rhan o UEFA.

“Dwi’n hoffi byw yn Cymru, dwi’n caru Cymru, ond Kazakhstan ydi adra i fi” meddai Malika.

Bydd Malika, Gareth a’u dau o blant yn mynd i wylio’r gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sadwrn; Malika i gefnogi Kazakhstan a Gareth i gefnogi Cymru.

“’Da ni’n edrych ymlaen yn arw i gael bod yn y stadiwm ddydd Sadwrn - Mali efo’i fflag Kazak dros ei ‘sgwyddau a finna’n rhan o’r Wal Goch yng nghrys Cymru” meddai Gareth.

Mae’r hogiau hefyd wedi bod yn dysgu anthem genedlaethol Kazakhstan.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.