Cydweli: Ystyried symud arweinydd cwlt rhyw i garchar agored
Fe allai arweinydd cwlt rhyw wnaeth gam-drin plant yn Sir Gâr gael ei symud i garchar agored mewn argymhelliad gan y Bwrdd Parôl.
Cafodd Colin Batley, 62 oed, ei garcharu am o leiaf 11 mlynedd ar ôl iddo ei gael yn euog o 35 o droesddau yn Llys y Goron Abertawe yn 2011.
Cafodd ei rybuddio y gallai fod yn y carchar am oes yn dilyn y dyfarniad.
Cafwyd Batley, oedd yn 48 oed ar y pryd, yn euog o 35 cyhuddiad ar ôl iddo ffurfio cwlt mewn cartref yng Nghydweli.
Nododd y Bwrdd Parôl ar adeg ei droseddu fod ganddo obsesiwn â rhyw a “chredoau cefnogi cam-drin plant” a dangosodd “ddiystyrwch” o deimladau dioddefwyr.
Cafodd cais blaenorol ganddo ei wrthod gan y Bwrdd Parôl yn 2023.
Mewn gwrandawiad ar 7 Mawrth clywodd y panel am waith Batley i fynd i’r afael â’i droseddu rhywiol a bod ei ymddygiad yn y carchar yn “rhagorol”.
Dywedodd y panel eu bod nhw’n argymell ei symud i garchar agored.
Roedd Batley wedi cytuno na fyddai ei ryddhau “yn syniad da” ar hyn o bryd ond ei fod am adeiladu ar ei sgiliau mewn carchar agored.
Fe fydd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Shabana Mahmood yn gwneud y penderfyniad terfynol.
Mewn crynodeb o’r penderfyniad, dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd Parôl: “Myfyriodd y panel ar ddifrifoldeb y troseddau mynegai a’r niwed difrifol a achosir i ddioddefwyr.
“Roedd Mr Batley wedi dangos ymrwymiad yn y carchar i fynd i’r afael â’i risg i eraill ac roedd wedi cwblhau’r holl waith a argymhellwyd.
“Ar ôl ystyried y cynnydd a wnaed a’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn y gwrandawiad, nid oedd y panel yn fodlon y byddai rhyddhau ar hyn o bryd yn ddiogel er mwyn diogelu’r cyhoedd.
“Fodd bynnag, wrth ystyried y meini prawf ar gyfer argymell lleoli mewn amodau agored, argymhellodd y panel y dylid symud ymlaen â Mr Batley fel hyn.”