Arestio dyn ar ôl i fachgen 13 oed gael ei daro gan gar
18/03/2025
Mae dyn wedi’i arestio wedi i fachgen 13 oed gael ei daro gan gar ym Merthyr Tudful.
Fe gafodd Heddlu’r De wybod am tua 16.40 brynhawn dydd Sadwrn fod car glas Mini Cooper wedi taro’r bachgen ar Ffordd Masarnen yn Y Gurnos.
Mae dyn 26 oed o Benydarren, Merthyr, bellach wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol.
Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.
Roedd yn rhaid i’r bachgen fynd i’r ysbyty wedi’r digwyddiad er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn iawn meddai’r llu.
Llun: Google Maps