Newyddion S4C

Pryder wrth i fewnforion cig defaid i’r DU gynyddu

oen bach ar y mynydd

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi mynegi pryder wrth i ffigurau newydd ddatgelu cynnydd sylweddol mewn cig defaid sydd wedi ei fewnforio i’r DU.

Mae mewnforion cig defaid i’r DU wedi cynyddu 40% ers y llynedd, gan gyrraedd tua 67,880 tunnell yn ôl data Llywodraeth y DU.

Mae’r cynnydd mewn mewnforion o Seland Newydd (cynnydd o 14,300 tunnell) ac Awstralia (cynnydd o 6,500 tunnell) bellach yn cyfrif am 86% o fewnforion cig defaid y DU, sy’n gynnydd o 78% o ffigurau 2023.

Mae dadansoddiad gan Hybu Cig Cymru yn awgrymu bod amryw o ffactorau yn gyfrifol am y cynnydd mewn mewnforion, gan gynnwys prisiau is o Hemisffer y De, cytundebau Masnach Rydd newydd, a’r lefel uchaf erioed mewn prisiau yn y DU.

Mae cynhyrchiant cig defaid y DU wedi gostwng tua 7% y llynedd, tra bod cynhyrchiant cig eidion y DU wedi cynyddu 4% yn ôl data DEFRA.

Dywedodd Alun Owen, is-lywydd Rhanbarthol Undeb Amaethwyr Cymru bod y cynnydd yn y mewnforion yn “fygythiad gwirioneddol” a gall “danseilio bywoliaeth ffermwyr defaid Cymru a chynaliadwyedd ein cymunedau gwledig”.

“Tra bod y galwad am gig oen i’w groesawu, yn gynyddol rydym yn wynebu’r posibiliad o gig oen Cymreig cynaliadwy o’r ansawdd uchaf yn cael ei ddisodli o blaid mewnforion sydd wedi teithio miloedd o filltiroedd.” meddai.

Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Lywodraeth y DU am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.