Newyddion S4C

Rhyfel Wcráin: Trafodaethau rhwng Rwsia ac America dros gadoediad

Putin / Rhyfel

Mae swyddogion o America yn teithio i Moscow ddydd Iau i gynnal trafodaethau dros gadoediad 30 diwrnod yn y rhyfel yn Wcráin.

Daw wedi i weinidogion Wcráin gytuno i seibiant am fis yn y rhyfel mewn trafodaethau gyda thîm o’r UDA yn Saudi Arabia ddydd Mawrth.

Mae’r rhyfela wedi parhau yn ardal Kursk, yn Rwsia, ble mae lluoedd Wcráin wedi ei ddal ers Awst y llynedd.

Mae Rwsia yn dweud ei fod yn y “cymalau olaf o’r ymgyrch i adennill” y rhanbarth, gyda’r Arlywydd Vladimir Putin yn gwneud ymddangosiad annisgwyl yn yr ardal ddydd Mercher.

Mae Putin wedi rhoi gorchymyn i luoedd Rwsia i adennill y rhanbarth yn llawn, yn ôl adroddiadau yn Rwsia.

Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Marco Rubio, wedi dweud bod tynged y rhyfel yn “nwylo Rwsia” gan fynnu mai dim ond drwy gynnal trafodaethau y gallai’r rhyfel ddod i ben.

Mae Arlywydd America, Donald Trump wedi bygwth ymateb pe bai Rwsia yn gwrthod y cadoediad.

Wedi tair blynedd o roi cefnogaeth i luoedd Wcráin yn y rhyfel, mae Donald Trump bellach wedi gohirio cefnogaeth filwrol gan America.

Roedd hynny hefyd yn cynnwys rhannu cudd-wybodaeth o systemau amddiffynnol America – cyn i Trump gyhoeddi yn gynharach yr wythnos hon y byddai’n rhannu gwybodaeth gydag Wcráin unwaith eto ar unwaith.

(Llun: AFP Photo/Kremlin.ru)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.