Newyddion S4C

Neil Foden: Penodi cyn-gomisiynydd plant i gadeirio bwrdd Cyngor Gwynedd

11/03/2025
Neil Foden

Mae cyn-gomisiynydd plant Cymru wedi ei phenodi i gadeirio bwrdd a fydd yn cadw llygad ar gynllun gan Gyngor Gwynedd i ddysgu gwersi o droseddau y pedoffeil o brifathro Neil Foden.

Mae Athro Sally Holland, a fu’n Gomisiynydd Plant rhwng 2015 a 2022, wedi cytuno i gadeirio Bwrdd Rhaglen y cyngor.

Nod y bwrdd meddai Cyngor Gwynedd fydd “sicrhau cynnydd priodol ac amserol i gamau a gweithdrefnau ymatebol.”

Cyhoeddodd y cyngor ym mis Ionawr y bydd y cynllun yn “troi pob carreg i sefydlu be aeth o’i le” yn sgil troseddau Neil Foden.

Dywedodd Sally Holland ddydd Mawrth: “Mae’n allweddol fod y dioddefwyr a’r goroeswyr a’r gymuned ehangach yn hyderus fod y Cyngor yn cymryd camau pendant i ddysgu o amgylchiadau’r achos gofidus hwn.

“Mae Cyngor Gwynedd wedi gosod allan ei gynllun a bydd pobl Gwynedd yn disgwyl gweld canlyniadau yn dilyn hyn.

“Bydd gan y Bwrdd Rhaglen rôl bwysig wrth graffu, herio a chynghori Cyngor Gwynedd wrth iddo weithredu ei gynllun ymateb, ac fel Cadeirydd byddaf yn ymdrechu i sicrhau bod y cynllun yn cadw momentwm ac yn cael effaith bendant.”

Image
Sally Holland
Sally Holland

‘Popeth yn ein gallu’

Bydd y Bwrdd yn gwirio a herio cynnydd "pob ffrwd waith" yng nghynllun Cyngor Gwynedd ac yn sicrhau fod yr holl faterion unigol yn cael eu cyflawni’n drwyadl a phriodol, meddai’r cyngor. 

Bydd yn adrodd yn rheolaidd i gyfarfodydd Cabinet Cyngor Gwynedd.

Fel rhan o’r cynllun newydd, bydd y cyngor hefyd yn cynnal ymweliadau monitro trefniadau diogelu mewn ysgolion y sir bob blwyddyn o hyn allan, yn hytrach na phob yn ail flwyddyn.

Byddant hefyd yn cynnal ymchwiliad i ddarganfod pam na fu gweithred swyddogol gan yr awdurdod yn 2019 ar ôl i bryderon gael eu codi am ymddygiad amhriodol Foden.

Bydd y gwaith yn cael ei gynnal ochr-yn-ochr â’r Adolygiad Ymarfer Plant statudol, sy’n cael ei gynnal gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd eu bod nhw’n “ parhau i fod wedi cael ein hysgwyd gan y troseddau erchyll a gyflawnwyd”.

“Mae ein meddyliau yn parhau i fod gyda’r dioddefwyr a phawb sydd wedi eu heffeithio,” meddai.

“Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth posib i sicrhau na fydd neb yn dioddef yn yr un modd fyth eto a bydd y Bwrdd Rhaglen yn greiddiol i sicrhau fod gwersi yn cael eu dysgu a’n bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu ein plant a’n pobl ifanc.

“Mae’n newyddion da fod yr Athro Sally Holland wedi cytuno i gadeirio ein Bwrdd Rhaglen. Rydw i’n hynod falch ein bod wedi gallu penodi unigolyn sydd â’r hygrededd uchaf posib a sydd wedi bod yn llais cryf dros hawliau a diogelu plant yng Nghymru ers blynyddoedd lawer. 

“Mae hi’n brofiadol iawn yn y maes a bydd yn llais annibynnol a chadarn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.