Gene Hackman wedi marw o glefyd ar y galon wythnos ar ôl ei wraig farw
Bu farw’r actor Gene Hackman yn sgil clefyd ar y galon, a hynny wythnos wedi i’w wraig Betsy Arakawa farw ôl cael ei heintio gyda chlefyd prin, medd patholegydd yn yr Unol Daleithiau.
Cafodd cyrff y ddau eu darganfod yn eu cartref yn Santa Fe yn nhalaith Mecsico Newydd ar 26 Chwefror.
Mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Gwener dywedodd Dr Heather Jerrell, Prif Archwiliwr Meddygol Mecsico Newydd, mai syndrom 'hantavirus pulmonary' oedd achos marwolaeth Betsy Arakawa, oedd yn 65 oed.
Mae’r feirws yn achosi problemau anadlu difrifol. Mae’n ymledu wrth i bobl ddod mewn i gysylltiad â llygod heintiedig.
Dyw hi ddim yn glir pryd yn union y bu Arakawa farw ond fe gafodd ei gweld am y tro diwethaf ar 11 Chwefror.
Bu farw Gene Hackman yn 95 oed yn sgil clefyd cardiofasgwlaidd difrifol. Yn ôl data a gafodd ei gasglu o’i beiriant pacemaker, mae’n debygol ei fod wedi marw ar 18 Chwefror.
Roedd yr actor byd enwog yn dioddef â chyflwr Alzheimer’s difrifol felly mi oedd hi’n debygol nad oedd Hackman yn ymwybodol fod ei wraig wedi marw wythnos yn gynharach, esboniodd Dr Jerrell.
Cafodd cyrff y cwpl ac un o’u cŵn eu darganfod gan yr heddlu ar ôl i weithiwr cynnal a chadw alw’r gwasanaethau brys.
Dyw achos marwolaeth eu ci, Xena, ddim yn glir hyd yma. Dywedodd y Sheriff Adan Mendoza bod Xena wedi ei harchwilio gan filfeddyg yn gynharach yn y mis ar 9 Chwefror.