Bocsio: Lauren Price yn cipio teitl pencampwr pwysau welter unedig y byd
Mae’r Gymraes Lauren Price wedi hawlio teitl Pencampwr pwysau welter unedig y byd wedi ei buddugoliaeth yn erbyn Natasha Jonas o Lerpwl yn Neuadd Albert yn Llundain nos Wener.
Roedd Price, o Gaerffili, yn amddiffyn gwregys pwysau welter y WBA, IBO a chylgrawn Ring, gyda Jonas yn amddiffyn gwregys WBC a’r IBF - gyda’r enillydd yn cyfuno’r teitlau.
Dyfarnodd y beirniaid y sgor yn 98 i 93, 100 i 90 a 98 i 92 i Price.
Price oedd yn ffefryn ar gyfer yr ornest ac fe all ei buddugoliaeth arwain at wynebu Pencampwr Sefydliad Bocsio'r Byd, Mikaela Mayer.
Enillodd Price, 30, fedal aur Olympaidd yn Tokyo 2020 ac mae'n ddiguro bellach mewn naw gornest broffesiynol.