Cynnydd o 50% mewn galwadau i Dîm Achub Mynydd Llanberis
Mae'r tîm achub mynydd sydd yn gyfrifol am achub cerddwyr mewn trafferthion ar gopa uchaf Cymru wedi cael y dechrau prysuraf i'w blwyddyn ar gofnod.
Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis wedi gweld cynnydd o 53% yn eu galwadau o gymharu â llynedd.
Ym mis Chwefror, aeth y tîm at ddyn oedd yn sownd ar y copa mewn eira trwchus, ac i gynorthwyo dyn arall oedd ar goll ar Crib Goch.
Aeth pum cerddwr i drafferthion ar Lwybr Pyg oherwydd tywydd garw hefyd.
Cafodd y gwirfoddolwyr sydd yn cynnig eu hamser a'u gwasanaeth i'r tîm eu galw allan 14 o weithiau yn ystod y mis diwethaf - o ganlyniad i 21 galwad am gymorth.
Rhybuddiodd y tîm: “Rydyn ni eisiau i bawb gael diwrnod da yn y mynyddoedd ond cofiwch ein bod ni’n dal i brofi amodau gaeafol – gwiriwch ragolygon y tywydd cyn mynd allan a chofiwch fod â’r offer, esgidiau a dillad ychwanegol cywir gan ei bod hi’n dal yn oer iawn yno.”