Dwy orsaf yng Nghymru ymysg yr uchaf am drenau wedi'u canslo
Mae dwy orsaf drên yng Nghymru ymysg yr uchaf o ran nifer y trenau sydd yn cael eu canslo ar draws y DU.
Cafodd rhestr gyda chanran y trenau oedd yn cael eu canslo yng ngorsafoedd ledled y DU ei gyhoeddi gan Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd Llywodraeth y DU ddydd Iau.
Mae tair gorsaf yng Nghaerdydd yn y chwech uchaf ar y rhestr.
Cafodd 11.74% o drenau eu canslo yng ngorsafoedd Llwynfedw, Rhiwbeina a'r Eglwys Newydd rhwng 5 Ionawr a 1 Chwefror eleni.
Mae hynny'n golygu bod 1,457 gwasanaeth trên yn cael eu canslo ym mhob gorsaf.
Ymysg y niferoedd isaf o wasanaethau i gael eu canslo mae nifer yng Ngwynedd, gan gynnwys Talybont, Penrhyndeudraeth a Harlech.
Cafodd tua 375 o wasanaethau eu canslo yn y gorsafoedd hyn, sef 0.80% o'r holl wasanaethau.
Roedd bron i 19,000 o wasanaethau Caerdydd Canolog wedi cael eu canslo rhwng 5 Ionawr a 1 Chwefror, ond roedd hynny'n gyfatebol i 2.94% o'u holl wasanaethau.
Roedd y ganran yn debyg yng Nghaerfyrddin, gyda 3.19% o wasanaethau yn cael eu canslo (1,691).
Yn y gogledd cafodd dros 4.98% o wasanaethau Bangor eu canslo, sef 1,305 taith.
Roedd y ffigwr yr un peth ar ddiwedd llinell y gogledd yng Nghaergybi.