
Comisiynydd Pobl Hŷn: 'Rhaid sicrhau nad ydy pobl fregus ar eu colled'

Comisiynydd Pobl Hŷn: 'Rhaid sicrhau nad ydy pobl fregus ar eu colled'
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru'n dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru siarad efo'r sector gofal i sicrhau nad ydy pobl fregus ar eu colled.
Fe ddaw hynny ar ôl i reolwr cartref gofal yng Ngheredigion rybuddio y bydd eu costau'n codi ym mis Ebrill.
Mae Steffan Lewis yn rheoli Cartref Plas Gwyn yn Llan-non, Ceredigion.
"Yr herie sy'n bwrw ni... mae'r real living wage yn mynd lan eto i'r staff sydd yn grêt, y'n ni mo'yn bod y staff yn ennill mwy am y gwaith da maen nhw yn ei wneud ond mae'n rhaid iddo gael ei adlewyrchu yn y fees, bod ni'n cael ein talu digon, mae pob cost o redeg y cartre'n mynd lan eto ym mis Ebrill nid dim ond y real living wage
"Felly mae'n rhaid i ni wneud siŵr bod y ffioedd 'dan ni'n cael ein talu bob mis yn mynd lan a lan."
Fis diwethaf, fe ddaeth i'r amlwg y bydd na £30m ychwanegol i ofal cymdeithasol yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, yn dilyn trafodaethau rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Ond yn ogystal â thalu'r cyflog byw, fe allai cartrefi gofal weld cynnydd yn y bil yswiriant gwladol, ac mae hynny'n bryder i'r Comisiynydd Pobl Hŷn, Rhian Bowen-Davies.
"Mae'n amlwg bod ni ar hyn o bryd mewn sefyllfa lle mae'n gwasanaethau ni gan gynnwys cartrefi gofal dan bwysau mawr, ac wrth feddwl am y cynnydd sydd yn mynd i ddod ym mis Ebrill ymlaen, mae wir galw ar Lywodraeth Cymru i siarad gyda'r sector i sicrhau dyfodol y sector a bod y bobol fregus sy'n derbyn y gwasanaethau yma ddim yn colli allan."

Yswiriant Gwladol
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi rhoi arian ers tair blynedd i sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael o leia'r Cyflog Byw, ac yn cydnabod y pryderon am yswiriant gwladol ond dydy hwnnw ddim wedi'i ddatganoli.
Yn eu datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gwerthfawrogi ein gweithlu gofal cymdeithasol ardderchog, ac ers 2022 rydym wedi darparu cyllid i sicrhau bod ein gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol.
"Yn 2025-26, byddwn yn darparu mwy na £6.1 biliwn i awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau allweddol, gan gynnwys gofal cymdeithasol. Mae hyn yn gynnydd o 4.5%, neu £262 miliwn, o'i gymharu â'r flwyddyn bresennol.
"Bydd £30 miliwn ychwanegol ar gael hefyd i helpu’r maes gofal cymdeithasol i dargedu oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty ac i ddarparu mwy o ofal a chymorth mewn cymunedau lleol."
Mewn ôl-nodyn i'r datganiad fe ddywedodd y Llywodraeth eu bod yn cydnabod bod sefydliadau a busnesau sy’n cael eu comisiynu gan y sector cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau gofal, ynghyd â sefydliadau'r trydydd sector, yn pryderu am effaith newidiadau i gyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr.
Fodd bynnag, nid yw Yswiriant Gwladol wedi'i ddatganoli.
Cysylltodd Rhaglen Newyddion S4C â Thrysorlys Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd i ofyn am ymateb.