Newyddion S4C

Abertawe: Mam yn cyfaddef iddi ladd ei mab chwech oed

Alexander Zurawski

Mae mam o Abertawe wedi cyfaddef iddi ladd ei mab chwech oed a cheisio lladd ei thad.

Plediodd Karolina Zurawska, 41 oed, yn euog i ddynladdiad ei mab Alexander Zurawski yn Clôs Cwm Du, Gendros, ar 29 Awst y llynedd.

Pleidodd yn euog hefyd y geisio lladd ei thad Krzysztof Siwy.

Clywodd y llys ei bod hi’n dioddef o sgitsoffrenia paranoiaidd a’i bod yn pledio'n euog ar sail cyfrifoldeb lleiedig (diminished responsibility).

Mae wedi ei chadw yn y ddalfa nes y bydd yn cael ei dedfrydu ar 25 Ebrill.

‘Bachgen hynod annwyl a phoblogaidd’

Mewn datganiad a gyhoeddwyd gan Heddlu De Cymru yn dilyn ei farwolaeth, disgrifiodd teulu Alexander fel “plentyn caredig iawn”.

“Roedd wrth ei fodd yn chwarae gyda’i chwaer fach ac yn chwarae gyda’i gi, Daisy.

“Roedd Alexander bob amser yn ymddwyn yn dda a byth yn ddrwg.

“Roedd yn glyfar iawn ac yn aeddfed iawn am ei oedran. Roedd ganddo ddealltwriaeth wych o ffeithiau.

“Roedd Alexander bob amser yn barod i helpu, bob amser yn awyddus i helpu gyda choginio a glanhau."

Ychwanegodd y deyrnged: “Roedd Alexander yn siarad Saesneg a Phwyleg a byddai’n aml yn cywiro ei rieni gyda’u Saesneg os oedden nhw’n cael geiriau’n anghywir.

“Roedd yn anhygoel.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.