Newyddion S4C

Carcharu dyn o'r gogledd am droseddau rhyw yn erbyn plant

28/02/2025
George Welsh

Mae dyn o Sir y Fflint wedi ei garcharu am wyth mlynedd ar ôl i lys ei gael yn euog o 14 o droseddau rhyw yn ymwneud â phlant.

Cafodd George Welsh, 81, o Ffynnongroyw, ger Treffynnon, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Lerpwl ddydd Iau.

Roedd wedi gwadu cyflawni'r troseddau.

Ond fe'i cafwyd yn euog o bob un o'r 14 o droseddau, gan gynnwys ymosod yn anweddus ar fachgen o dan 16 oed.

Cyflawnodd y troseddau yn erbyn un bachgen a ymosododd arno am y tro cyntaf tra’n byw ym Mhenbedw yn yr 1980au.
 
Gofynnodd y dioddefwr iddo roi’r gorau iddi ond parhaodd Welsh i droseddu am nifer o flynyddoedd, gan fynd â’r dioddefwr i’w gartref a’i gam-drin yn rhywiol.
 
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Sarah Wilkinson bod Heddlu Glannau Mersi wedi ymrwymo i "amddiffyn plant rhag cam-drin rhywiol".
 
"Mae Heddlu Glannau Merswy wedi gallu profi ymddygiad ffiaidd Welsh a bydd nawr yn treulio cryn dipyn o amser yn y carchar," meddai.
 
"Gwadodd Welsh y troseddau, er gwaethaf tystiolaeth glir o’i euogrwydd. Arweiniodd hyn at achos llys wythnos o hyd gan orfodi ei ddioddefwr a’i deulu i fynd drwy’r ddioddefaint ychwanegol hon er mwyn iddynt gael cyfiawnder.
 
"Mae’r erlyniad hwn yn dangos ymrwymiad Heddlu Glannau Mersi i amddiffyn plant rhag cam-drin rhywiol a rhag y rhai sy’n ceisio eu niweidio."
 
Ychwanegodd: "Mae gennym ni swyddogion arbenigol sy’n ymchwilio i droseddau o’r fath ac yn rhoi cefnogaeth lawn i ddioddefwyr a’u teuluoedd.
 
"Os ydych chi wedi profi unrhyw fath o gam-drin rhywiol, neu’n gwybod am blentyn yn cael ei gam-drin, dewch ymlaen a riportiwch hyn i’r heddlu."
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.