Eluned Morgan yn cyhoeddi neges Dydd Gŵyl Dewi am y tro cyntaf fel Prif Weinidog
Mae Eluned Morgan wedi cyhoeddi neges Dydd Gŵyl Dewi am y tro cyntaf fel Prif Weinidog Cymru.
Dywedodd Ms Morgan, a gafodd ei phenodi'n Brif Weinidog ym mis Awst y llynedd, ei bod yn dymuno diwrnod cenedlaethol hapus.
Yn ei neges ddydd Sadwrn, mae hi'n addo parhau â'r gwaith i "greu Cymru gryfach, tecach a gwyrddach".
"Dwi wedi addo byddwn ni’n parhau â'n gwaith i greu Cymru gryfach, tecach a gwyrddach," meddai.
"Lle mae pawb yn cael ei gwerthfawrogi, a neb yn cael ei adael ar ôl.
"A lle gall ein pobl ifanc gyflawni pob uchelgais, heb feddwl bod angen mynd i ffwrdd i gael dyfodol llwyddiannus.
"Dyma’r gwerthoedd a ddysgwyd i ni gan Dewi Sant ei hun."
Fe aeth Ms Morgan ymlaen i annog pobl i wneud y "pethau bychain".
"Ble bynnag rydych chi'n dathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni, helpwch ni i droi'r byd yng Nghymru.
"A beth am i ni wneud rhywbeth bach i wella diwrnod rhywun arall?
"Dydd Gŵyl Dewi Hapus i chi gyd – mwynhewch!"
Ms Morgan yw chweched Prif Weinidog Cymru a'r fenyw gyntaf yn y swydd.
Fe gymrodd yr awenau oddi wrth Vaughan Gething, a ymddiswyddodd ym mis Gorffennaf 2024.