Newyddion S4C

Cyflwyno cais cynllunio i roi to newydd ar Neuadd Dewi Sant

28/02/2025
Neuadd Dewi Sant

Mae ceisiadau cynllunio wedi eu cyflwyno i roi to newydd ar Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd.

Datgelodd gwefan Newyddion S4C ym mis Medi 2023 bod concrid RAAC wedi ei ddarganfod ar do'r adeilad.

Mae’r adeilad bellach wedi bod ar gau ers dros flwyddyn. Mae disgwyl iddo ail-agor yn hydref neu aeaf 2026.

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, fod y cynllun i newid y to wedi gweld “cynnydd da”.

Wrth siarad yng nghyfarfod cabinet y cyngor ddydd Iau ychwanegodd fod y cyngor yn gobeithio ail-agor y neuadd ar gyfer cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2027.

Roedd yna dri chais cynllunio wedi eu cyflwyno er mwyn rhoi to newydd ar yr adeilad.

Roedd dau yn ymwneud â chaniatâd i wneud newidiadau i adeilad rhestredig.

Roedd y trydydd yn gofyn am ganiatâd i dynnu’r gorchuddion plwm presennol ar do'r adeilad a gosod to zinc yn eu lle.

‘Costau wedi codi’

Daw hyn ar ôl i aelod cabinet Cyngor Caerdydd dros ddiwylliant, chwaraeon a pharciau, y Cynghorydd Jennifer Burke, ddweud mewn cyfarfod ym mis Ionawr ei bod yn “rhwystredig” â’r oedi.

“Rwy’n rhannu eich rhwystredigaeth ac rydw i wedi bod yn glir ac yn gadarn iawn gyda’r arweinydd a’r prif weithredwr y dylen nhw gyfleu fy rhwystredigaethau wrth drafod gydag AMG,” meddai.

“Rwy’n siŵr bod disgwyl ceisiadau cynllunio yn fuan a… rhan o’r mater yw bod costau wedi codi oherwydd maint y RAAC.”

Fe lofnododd cwmni Academy Music Group (AMG) gytundeb am brydles i redeg Neuadd Dewi Sant ym mis Ebrill 2024.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.