Carcharu dau ddyn ar ôl darganfod gwerth £2 filiwn o ganabis mewn hen ysgol
Mae dau ddyn wedi eu carcharu wedi i dditectifs ddarganfod fferm ganabis enfawr mewn hen ysgol yng Ngheredigion.
Daeth yr heddlu o hyd i werth £2 filiwn o'r cyffur oedd yn cael ei dyfu yn hen ysgol gynradd Llandysul.
Yn Llys y Goron Abertawe, cafodd Alfred Perkola, 44, ei yrru i garchar am 45 mis, ac Aldi Gjegjaj am 36 mis. Cafodd y ddau ddyn eu harestio wedi i'r heddlu atal dau gerbyd ger traffordd yr M4. Fe ddaethon nhw o hyd i 100 cilogram o ganabis yn y cerbydau - gwerth tua £1 miliwn.
Dangosodd offer tracio'r cerbydau eu bod wedi bod ger yr hen ysgol yn Llandysul am gyfnod. Pan aeth swyddogion yno, fe ddaethon nhw o hyd i bron i fil o blanhigion canabis, gwerth tua £1 miliwn arall.
Er bod yr adeilad yn ymddangos yn wâg ar yr olwg gyntaf, daeth hi'n amlwg bod y safle'n ganolbwynt cynllun soffistigedig i dyfu canabis.
Dangosodd y camerau cylch-cyfyng gerllaw fod nifer o bobl wedi bod nôl a blaen o'r adeilad yn ystod y dyddiau blaenorol.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Steve Thomas o Heddlu Dyfed-Powys: “Mae hwn yn ganlyniad ardderchog i weld dau unigolyn arall yn mynd i’r carchar am eu cysylltiad â chynhyrchu a gwerthu cyffuriau anghyfreithlon yn ardal Dyfed-Powys.
“Mae rhyng-gipiad y cerbydau hyn a gweithgareddau’r unigolion wedi ein galluogi i gymryd gwerth bron i £2 filiwn o gyffuriau allan o’r gadwyn gyflenwi a oedd i fod ar y strydoedd."