Achub tri chi o dân mewn tŷ yng Ngheredigion
Mae tri chi wedi cael eu hachub o dân mewn tŷ yng Ngheredigion.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i ddigwyddiad ym mhentref Dihewyd am 15.02 ddydd Llun.
Roedd criwiau o orsafoedd Aberaeron a Chei Newydd yn rhan o'r ymgyrch i achub tri chi wedi i bopty achosi tân yn eu cartref.
Defnyddiodd y criwiau bibell ddŵr, camera delweddau thermol a ffan awyru pwysedd positif i ddiffodd y tân.
Dywedodd y Gwasanaeth Tân bod y criwiau wedi gadael y tŷ am 16.41.
Y gred yw bod y tân wedi cael ei gychwyn gan bopty a gafodd ei droi ymlaen yn ddamweiniol, gydag eitemau wedi'u gadael ar ben y popty.
Mae tua 60% o danau yn y cartref yn cychwyn yn y gegin, meddai'r Gwasanaeth Tân.