Newyddion S4C

Dwy ddynes wedi marw o fewn wythnos yn Eryri

26/02/2025
Maria Eftimova
Maria Eftimova

Mae dwy ddynes wedi marw o fewn cyfnod o wythnos ar ôl syrthio yn Eryri.

Mae wedi dod i’r amlwg fod dynes, sydd wedi’i henwi ar-lein fel Maria Eftimova, wedi marw ar ôl disgyn 60 troedfedd ar fynydd Tryfan dros y penwythnos.  

Daw ar ôl i gwest gael ei agor ddydd Mawrth i farwolaeth Dr Charlotte Crook, 30, a syrthiodd ar Glyder Fach.

Fe gafodd y person oedd yn cerdded efo Dr Crook hefyd ei anafu ar ôl disgyn wrth geisio ei chyrraedd.

Fe gafodd tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu galw i'r ddau ddigwyddiad.

Dywedodd y tîm achub: "Mae ein meddyliau gyda theuluoedd a ffrindiau’r rhai sydd wedi’u hanafu.

"Diolch i’r holl aelodau o’r cyhoedd a geisiodd helpu."  

'Angerdd dros fywyd'

Mae apêl codi arian wedi’i lansio i gefnogi teulu’r ddynes a fu farw ar Tryfan sydd wedi’i henwi ar-lein fel Maria Eftimova.

"Roedd Maria yn ferch 28 oed uchelgeisiol, disglair a hoffus, ac roedd ei phersonoliaeth fywiog, ei hegni a'i naws yn cyffwrdd ac yn codi calonnau'r rhai o'i chwmpas," meddai trefnwyr yr apêl mewn datganiad ar wefan JustGiving.

"Roedd ganddi angerdd am beirianneg, ar ôl astudio Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Salford, a chariad at chwaraeon eithafol. 

"Ei hangerdd mwyaf oedd eirafyrddio, rhywbeth yr oedd yn gyffrous iawn amdano ac yn edrych ymlaen at wneud eto ar ei thaith nesaf i Awstria. 

"Roedd ganddi angerdd dros fywyd a darganfod harddwch y byd. Cafodd ei chymryd oddi wrth ei theulu yn llawer rhy fuan.

"Ni all geiriau fynegi’r dinistr y mae ei theulu a’n cymuned yn ei brofi."

Image
 Achub Mynydd Dyffryn Ogwen
Fe gafodd criw Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu galw i'r ddau ddigwyddiad

Ychwanegodd y trefnwyr bod teulu Ms Eftimova, sy'n byw yn Bwlgaria, yn wynebu "baich ariannol sylweddol" i ddychwelyd ei chorff.

"Mae’r costau sy’n gysylltiedig â dychwelyd corff yn rhyngwladol yn sylweddol," medden nhw.

"Ac rydym am gymryd y baich ychwanegol fel y gallant ganolbwyntio ar alaru eu merch werthfawr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.