
'Gôl-geidwad hynaf yn y byd' dal i chwarae yn 92 oed

Mae gŵr o Landudno sydd dal i chwarae pêl-droed yn 92 oed yn credu mai ef yw’r gôl-geidwad hynaf yn y byd.
Mae Alan Camsell wedi bod yn aelod selog o dîm pêl-droed cerdded dros 60, Llandudno Strollers, ers sawl blwyddyn.
Wrth siarad â rhaglen Sgorio, dywedodd y golwr ei fod wedi cael sylw gan y wasg mewn gwledydd mor bell â Rwsia a’r Ariannin.
“Fi ydy’r gôl-geidwad hynaf yn y byd, dwi’n credu,” meddai.
“Dwi di gweld fideos o Brasil, Yr Ariannin, De America [ohonof i], mae gennyf ffrindiau yn Awstria sydd wedi fy ngweld ar deledu yn Rwsia.
“A does neb wedi ‘sgwennu ata’ i i ddeud, ‘na, dwi’n hynach!’”
Dechreuodd Alan, a symudodd i ogledd Cymru o Sir Durham, ar ei yrfa bêl-droed yn hwyrach na’r mwyafrif o chwaraewyr, meddai.
Inline Tweet: https://twitter.com/sgorio/status/1894359790383472822
“Nes i ddim dechrau chwarae pêl-droed nes o’n i’n 40 oed ac roedd ffeindio grŵp o ddynion o’n i’n gallu siarad efo a chwrdd efo yn gwneud gwahaniaeth enfawr," meddai.
“Dwi’n meddwl fod chwarae efo pobl iau wedi helpu i mi aros yn ifanc fy hun.
“Cefais fe ngeni i deulu a rhieni oedd efo siopau a dydd Sadwrn oedd wastad y diwrnod prysuraf.
“Felly oedd yn rhaid i mi fod i fyny i weithio yn y siopau am 8 yn y bore, a chau am 7 o’r gloch, ac yn y dyddiau yna, dydd Sadwrn oedd yr unig ddiwrnod am chwaraeon.
“Dim nes i mi newid swydd a symud i fan ‘ma oeddwn i’n rhydd ar ddydd Sadwrn ac yn gallu cymryd rhan mewn camp, a dwi di dal i ddal i fyny!”

'Esiampl da'
Mae cael Alan rhwng y pyst wedi codi proffil y clwb, yn ôl ei gyd-chwaraewyr, sydd yn falch o’i gwmni.
Dywedodd Michael McMillan, sydd yn 77 oed: “Da ni di cael bach o enwogrwydd oherwydd mae ‘na fachan ifanc yn chwara yn y gôl i ni, o’r enw Alan Camsell.
“Mae’n 92 oed ac mae’n dal i chwarae yn y gôl i ni, ac mae’n deifio o gwmpas, sydd yn rhywbeth na fysa’r rhan fwyaf o ninnau yn ein 60au a 70au yn gwneud.
“Mae’n esiampl dda o rywun o oedran hŷn sydd eisiau cario ymlaen i chwarae pêl-droed.”
Ychwanegodd Nicholas Evans, 72 oed: “Mae’n troi i fyny bron bob wythnos - oni bai ei fod ar wyliau. Glaw, tywydd oer, heulwen, eira – beth bynnag.
“Mae o bob tro yma. Mae’n foi da.”
Gwylich y cyfweliad llawn ar gyfryngau cymdeithasol Sgorio, ar Facebook, X ac Instagram.