'Rhwystredig': Diffyg menywod sydd yn hyfforddi chwaraeon
'Rhwystredig': Diffyg menywod sydd yn hyfforddi chwaraeon
Mae 'na ddiffyg enfawr o fenywod sy'n gweithio a gwirfoddoli fel hyfforddwr mewn chwaraeon, yn ôl cyn-bencampwr triathlon y byd.
Mae Non Stanford, sydd bellach yn gweithio gyda thîm triathlon Prydain, wedi dweud mai hi yw'r unig ferch sy'n hyfforddi ar y lefel elît a bod y patrwm yn gyfarwydd ar draws nifer fawr o gampau eraill.
Fel cyn Bencampwr Triathlon y Byd, Non Stanford yw un o athletwyr mwyaf disglair i ddod o Gymru dros y degawdau diwethaf.
Ac yn dilyn ei ymddeoliad y llynedd - fe benderfynodd hi i gamu i'r byd hyfforddi gyda Thîm Triathlon Prydain.
Ond mewn cyfweliad arbennig gyda rhaglen Newyddion S4C, dywedodd ei fod yn “rhwystredig” mai hi yw’r unig hyfforddwr benywaidd ar y lefel elît.
“Fi yw'r unig hyfforddwr sy'n ferch ar yr ochr Olympaidd,” meddai.
“Ar yr ochr Paralympics ma’ un ferch arall yn gweithio. Ond y byd dwi'n gweithio ynddo, fi yw'r unig ferch a'r unig ferch in any meeting.
“Mae yn frustrating achos dwi'n credu mae menywod yn rhoi llawer i'r conversation ac maen nhw gyda phrofiadau gwahanol a gwahanol ideas, so mae'n rili bwysig i gael mwy o fenywod sy'n gwneud hyfforddi ac yn gweithio yn sbort.”
Newid 'perceptions'
Mae’r ystadegau diweddaraf yng Nghymru yn dangos bod mwy o ddynion yn hyfforddi na menywod, gyda 54% i’w gymharu a 46%.
Mae hynny yn welliant ar y ffigyrau ar draws Prydain, ble dim ond 38% o hyfforddwyr sydd yn fenywod, i gymharu â 62% o ddynion.
Ychwanegodd Non Stanford: "Mae'n male dominated industry, ac mae rhaid newid perceptions pobl bod sbort yn rhywle mae menywod yn gallu gweithio."
Un sydd wedi torri tir newydd yw hyfforddwr merched Cymru dan 19 - Nia Davies.
Hi oedd yr hyfforddwr benywaidd cyntaf gyda chlwb yn Uwch Gynghrair Lloegr, pan roedd yn rhan o dîm hyfforddi CPD Abertawe yn ystod eu cyfnod yn y brif adran.
Dywedodd Nia Davies: "Pan o'ch chi'n mynd i glybiau eraill, o'ch chi'n dod off y bws ac o'n nhw'n meddwl, 'o, chi'n physio', syth bin.
“Oedd nhw o hyd yn dweud like 'physio room draw fana,' neu rywbeth, ac o'n i fel, o na, dwi'n coach.
“Ac oeddwn nhw fel bach yn embarrassed wedyn. Felly dwi'n meddwl roedd hynna wedi agor llawer o lygaid i rai pobl.
“Does dim digon o fenywod yn y gêm ar y funud, yn enwedig yn y lefel ucha'."
Prif Lun: Non Stanford yn hawlio medal arian dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2022 (Wochit/Getty)