Newyddion S4C

Pab Ffransis yn parhau i 'orffwys' yn yr ysbyty

Pab Ffransis
Pab Ffransis

Mae’r Pab Ffransis yn “gorffwys” yn yr ysbyty ac fe aeth y noson “yn dda”, meddai’r Fatican fore dydd Llun.

Daw ar ôl i’r Fatican ddweud ddydd Sul fod y Pab mewn cyflwr difrifol ond ei fod wedi cymryd rhan mewn Offeren yn yr ysbyty gyda’r rhai oedd yn gofalu amdano.

Dywedodd datganiad nos Sul ei fod yn "wyliadwrus ac yn canolbwyntio'n dda", ond oherwydd cymhlethdod ei achos roedd y prognosis yn "gadw".

Mae’r Pab, sy’n 88 oed, wedi bod yn ysbyty Gemelli yn Rhufain ers 14 Chwefror ac yn cael triniaeth am niwmonia a broncitis.

Dirywiodd ei gyflwr ddydd Gwener, ac mae e wedi cael trallwysiad gwaed, wrth iddo barhau i gael trafferthion anadlu.  

Yn ystod ei gyfnod o 12 mlynedd yn arwain yr Eglwys Gatholig, mae'r Pab Ffransis, sy'n dod o'r Ariannin, wedi cael triniaeth mewn ysbyty droeon. 

Ym mis Mawrth 2023, treuliodd dair noson mewn ysbyty oherwydd bronchitis.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.