Newyddion S4C

Bachgen 17 oed wedi ei drywanu mewn siop ddillad yn Nottingham

23/02/2025
Primark

Mae bachgen yn ei arddegau wedi ei drywanu o flaen pobl a oedd yn siopa yng nghangen Primark yng nghanol dinas Nottingham. 

Mae'r llanc 17 oed wedi ei gludo i ysbyty gydag anafiadau difrifol. 

Yn ôl yr heddlu, cafodd ei drywanu yn ei frest yn y siop yn Long Row tua 11.30 fore Sul.

Mae'r heddlu'n credu bod ffrae y tu allan i'r siop rhwng grŵp o bobl ifanc cyn yr ymosodiad. 

Mae'r heddlu'n ceisio dod o hyd i berson a lwyddodd i ffoi o'r safle.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Paul Shortt, o heddlu Sir Nottingham: “Roedd hon yn weithred dreisgar frawychus, a ddigwyddodd o flaen aelodau o'r cyhoedd.  

“Mae tîm o dditectifs yn ymchwilio er mwyn darganfod beth yn union ddigwyddodd cyn, yn ystod ac wedi'r digwyddiad.”

Mae'r llu yn apelio am dystion. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.